Digwyddiad gwybodaeth yn Nhanygrisiau am faterion ynni
Dyddiad: 03/02/2022
Digwyddiad gwybodaeth yn Nhanygrisiau am faterion ynni
Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i fynychu digwyddiad gwybodaeth yn Ysgol Tanygrisiau ar Ddydd Sadwrn 19 Chwefror ble bydd manylion yn cael eu rhannu am faterion ynni.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, y Dref Werdd, Nyth, City Energy a Menai Heating yno o 11am tan 4pm i gynnig cymorth ac ateb cwestiynau am ynni a rhannu gwybodaeth am grantiau sydd ar gael ar gyfer boeleri a insiwleiddio tŷ drwy Nyth ac ECO.
Bydd cymorth ar gael i helpu gyda chostau ynni, a mae pobl lleol yn cael eu hannog i fynd i siarad gyda’r arbenigwyr am leihau biliau, sut i gynhesu cartrefi’n well a sut i leihau ôl-troed carbon.
Bydd hefyd cyfle i gyfnewid bylbiau – dewch a’ch bylbiau hen ac ewch ag un LED yn ei le.
Bydd croeso cynnes i bawb.