Dathliadau Gŵyl Dewi Sant yn ôl ar draws Dinas Bangor

Dyddiad: 23/02/2022
Dydd Gwyl Dewi

(Datganiad gan Fenter Iaith Bangor)

Mae naw diwrnod o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal o amgylch Dinas Bangor i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi – gan ddechrau efo gorymdaith o Storiel i’r cloc a drwy’r Farchnad leol ac i’r gadeirlan ar ddydd Gwener, 25 Chwefror.

 Bydd stondin yn y Farchnad gyda gêm ‘Lle mae’r Llanau?’ i gael cyfle i ennill tocynnau ar gyfer un o sioeau Pontio.

 Yn ogystal bydd taith obaith bob diwrnod gyda Chastell Penrhyn ar gael tan 5 Mawrth.

 Ar ddydd Sadwrn, 26 Chwefror mae Parkrun yn dathlu Cymreictod - felly gwisgwch eich gwisg fwyaf Cymreig!

 Hefyd ar y dydd Sadwrn (26 Chwefror) mae taith Hanesyddol Hirael a Phorth Penrhyn ac ar y Sul mae Cymun Bendigaid yn y Gadeirlan.

 Yna ar Ddydd Llun, 28 Chwefror, bydd ffilm Gwnewch y pethau Bychain gan Gwion Aled yn Pontio a ffilm Hedd Wyn ar Ddydd Mawrth y 1af.

 Bydd bore o blannu blodau ar Ddydd Mawrth y 1af bydd ym Maesgeirchen gydag Adra a bydd Dawnsio i Parkinson’s yn Stiwdio Pontio.

 Mae Cymun Bendigaid dwyieithog gyda’r Arddodi Lludw yn y Gadeirlan ar fore Mercher, 2 Mawrth.

 Bydd cwis i ddathlu ym Mwyd Da Bangor ar nos Fercher, 2 Mawrth am 7yh sydd yn addas i ddysgwyr a siaradwyr rhugl.

 Ar y Dydd Gwener olaf (4 Mawrth) mae gan Gaffi Babis thema - Gwneud y pethau Bychain yn Stiwdio Pontio.

 Bydd Menter Iaith Bangor a Dysgu Cymraeg yn Marchnad Leol Bangor ar Dydd Gwener, 4 Mawrth, os ydych eisiau sgwrsio sut orau i ddysgu Cymraeg dewch draw i gael sgwrs.

 I orffen yr wythnos ar y Dydd Sadwrn olaf (5 Mawrth) mae Gweithdy Celf ar Zoom a Thaith Hanes y pier yn y prynhawn.

 Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda neges@menteriaith.cymru neu 01248 370050.