Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yng Ngwynedd
Dyddiad: 09/02/2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun cymorth tanwydd Gaeaf yn ddiweddar sydd yn cael ei weinyddu’n lleol gan Cyngor Gwynedd. Mae’r taliad ar gyfer aelwydydd cymwys wedi dyblu o £100 i £200.
Bydd aelwydydd cymwys yn medru hawlio taliad un- tro £200 i ddarparu cymorth tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf ar y grid. Yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn agored i aelwydydd ble mae un aelod yn derbyn rhai budd-daliadau lles.
Bydd y taliad yma ar gael i ymgeiswyr newydd, gyda thaliad ôl-weithredol i'r rhai sydd eisoes wedi gwneud cais. Mae gofyn i drigolion Gwynedd sydd yn ymgeisio am y cynllun gyflwyno eu cais erbyn 28 Chwefror 2022 ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthTanwyddGaeaf
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd:
“Gwyddom fod yna nifer fawr o aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn ac rydym yn falch o fod yn gweinyddu'r taliad yma yng Ngwynedd
“Hyd yma, mae Adran Gyllid y Cyngor wedi derbyn tua 5,000 o geisiadau gan aelwydydd Gwynedd.
“Mae’r cynllun wedi cynyddu’r taliad a fydd ar gael i aelwydydd cymwys yn ddiweddar – ond os ydych eisoes wedi cyflwyno cais, nid oes angen i chi gysylltu â’r Cyngor i hawlio eich cyllid ychwanegol. Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig.
“Fodd bynnag, os credwch y gallech fod yn gymwys ar gyfer y taliad, byddem yn eich annog i edrych ar y wybodaeth sydd ar gael ar wefan y Cyngor, a chyflwyno cais os ydych yn credu bod gennych hawl. Mae angen gwneud ceisiadau erbyn 28 Chwefror 2022.”
Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-daliadau prawf modd oedran- gweithio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.
Y budd-daliadau cymwys yw:
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Credyd Cynhwysol, neu
- Credydau Treth Gwaith
Gall unrhyw un sydd angen cymorth ariannol gyda chostau tanwydd oddi ar y grid (fel olew, Nwy Petroliwm Hylifedig (LPG) neu lo) ystyried gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth. Mwy o fanylion yma https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf