Cyngor Gwynedd yn rhoi lle amlwg i'r iaith Gymraeg
Dyddiad: 28/02/2022
Fel rhan o ymdrechion i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ymysg holl drigolion Gwynedd, mae’r Cyngor wedi datblygu adran benodol ar ei wefan sy’n dwyn ynghyd gwybodaeth allweddol am yr iaith a diwylliant Cymru.
Mae’r tudalennau newydd ar www.gwynedd.llyw.cymru/YrIaithGymraeg yn cynnig siop-un-stop ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Ngwynedd ac angen gwybodaeth am yr holl wasanaethau sydd ar gael i gefnogi defnydd o’r iaith.
Mae’r wybodaeth yn cynnwys clipiau fideo byr gan rai o drigolion Gwynedd am y profiad o ddysgu Cymraeg, e-lyfr ‘Symud i Wynedd’ sy’n rhoi mwy o wybodaeth am iaith a diwylliant Gwynedd i fewnfudwyr i’r sir a rhagor o fanylion am waith Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd, ynghyd a chymorth i fusnesau.
Y bwriad yw parhau i ddatblygu’r adran ar-lein a fydd hefyd yn cynnwys map rhyngweithiol a fydd yn cofnodi enwau llefydd llafar a ddefnyddir gan bobl Gwynedd a map arall a fydd yn dangos y gweithgareddau cymunedol amrywiol cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yma.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd:
“Yma yng Ngwynedd, mae gennym hanes hir a balch o hybu defnydd y Gymraeg. Mae holl wasanaethau’r Cyngor ar gael yn y Gymraeg ac rydym yn annog trigolion i wneud y defnydd llawn o’n gwasanaethau.
“Ein bwriad wrth ddatblygu’r tudalennau newydd yma ar y wefan ydi dwyn ynghyd gwybodaeth ddefnyddiol a’i wneud mor hawdd a phosib i bobl allu cael mynediad at gefnogaeth a manylion am yr iaith.
“Mae gwybodaeth wedi ei ddatblygu yn ddiweddar i hyrwyddo pwysigrwydd yr iaith i unrhyw un sy’n symud i Wynedd o rannau eraill o Gymru neu du hwnt. Rydan ni’n awyddus fod pawb sy’n byw yma yng Ngwynedd yn deall pwysigrwydd yr iaith ac yn gallu gwneud y mwyaf o’r iaith.
“Mae manylion am hyn ar gael ar y tudalennau newydd gan roi cyflwyniad i’r iaith Gymraeg, a’i lle ym mywyd pob dydd y boblogaeth leol a hynny ym myd addysg, yn y gwaith ac yn y gymuned ei hun. Yn ogystal mae’n cynnwys gwybodaeth am sut i fynd ati i gynnwys y Gymraeg mewn bywyd personol a theuluol, er mwyn helpu i ymgartrefu o fewn y gymuned.
“Mae Gwynedd yn unigryw yng Nghymru fel cadarnle i’r Gymraeg - dyma rywbeth yr ydym yn falch iawn ohono ac yn rhywbeth yr ydym am ei drysori a’i feithrin i’r dyfodol.”
Am fwy o wybodaeth neu unrhyw gyngor pellach ewch draw i’r tudalennau newydd ar wefan Cyngor Gwynedd ar www.gwynedd.llyw.cymru/YrIaithGymraeg