Arddangosfa deithiol i ddathlu dynodiad Safle Treftadaeth y Byd

Dyddiad: 16/02/2022
Llun Gwefan 1

I ddathlu dynodiad Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, mae arddangosfa newydd yn mynd ar daith drwy cymunedau chwarelyddol Gwynedd.

Yn brosiect wedi’i greu ar y cyd gyda rhai o ddisgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd a’r artist Catrin Williams, mae’r gwaith celf i’w gweld ar hyn o bryd yn STORIEL, Bangor – cyn yna mynd ar daith drwy’r ardaloedd a chymunedau llechi sydd wedi ysbrydoli’r gwaith.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae hwn yn arddangosfa arbennig iawn lle cafodd pobl ifanc gyfle i ymateb yn greadigol i’r dirwedd llechi a chreu cyfanwaith rhwng cyfoedion yr ardaloedd.

“Roedd yn gyfle i ddisgyblion o ysgolion Dyffryn Ogwen, Brynrefail, Dyffryn Nantlle, Eifionydd, y Moelwyn a Ysgol Uwchradd Tywyn gyd weithio gyda’r artist Catrin Williams ar y prosiect.

“Rydw i’n siŵr ei fod wedi bod yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion ac mae’n braf iawn gwybod y bydd yr ysgolion yn derbyn copi o’r gwaith ar ffurf panel gwybodaeth i gadw fel cofnod o’r prosiect.”

 

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr artist Catrin Williams:

“Drwy gwblhau’r prosiect, cafodd y disgyblion y cyfle i ehangu eu dealltwriaeth ac yna ymateb yn greadigol i’r diwydiant, diwylliant a dylanwad y llechi.

“O greithiau gweledol y tirwedd i’r bandiau pres – roedd ffocws y diddordeb yn newid o ardal i ardal. Yn Ysgolion Dyffryn Ogwen, Brynrefail, Y Moelwyn a Dyffryn Nantlle, roedd dylanwad cerddoriaeth y bandiau o ddiddordeb mawr. Hanes y porthladdoedd a hanes y llechi’n hwylio i bedwar ban byd oedd ffocws Ysgolion Eifionydd a Thywyn, tra wnaeth Ysgol Uwchradd Brynrefail fynd draw i Amgueddfa Lechi Cymru er mwyn cael ysbrydoliaeth llaw cyntaf ac am fewnbwn hanesyddol.

“Wrth ddatblygu’r wybodaeth, fe hefyd ddatblygodd gwaith creadigol. Y canlyniad oedd delweddau lliwgar aml-gyfrwng yn cyd-gynhyrchu a’i gilydd i greu un darn mawr o gelf mewn tecstilau i ddathlu’r hanes yr ardaloedd, y straeon, a’r diwylliant.”

 

Cafodd y gwaith ei gomisiynu fel rhan o brosiect LleCHI ac ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Gwynedd Greadigol.

I’w gweld yma hefyd bydd cyfres o ffotograffau gan Llysgenhadon ifanc LleCHI sy’n portreadu prydferthwch unigryw y diwydiant llechi a'r tirwedd o’i chwmpas a drefnwyd fel rhan o ymgyrch Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru, dan arweiniad y ffotograffydd Helen Walker Brown.

Mi fydd yr arddangosfa ar gael i’w gweld yn ei dro yn ardaloedd Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Porthmadog gan iddo eisoes wedi cael cyfnod yn Amgueddfa Lechi Llanberis.

Y lleoliad nesaf ar y daith yw Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul, Tywyn gyda’r arddangosfa i’w gweld o 22/3/22 hyd 13/5/22.