Ardal Ni 2035 - cyfle i bobl Gwynedd siapio dyfodol eu milltir sgwâr
Dyddiad: 25/02/2022

Ardal Ni 2035 - cyfle i siapio y dyfodol
‘Beth sy’n dda am eich ardal leol?’; ‘Beth sydd ddim mor dda?’; ‘Beth sydd angen newid er mwyn gwneud eich ardal yn lle gwych i fyw ynddo erbyn 2035?’.
Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar drigolion y sir - o Ben Llŷn i Benllyn ac o Aberdyfi i Abergwyngregyn – i lenwi holiadur “Ardal Ni 2035” er mwyn canfod atebion i’r cwestiynau allweddol yma.
Ymarferiad ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar gymunedau unigol o fewn y sir yw “Ardal Ni 2035” sy’n holi barn pobl Gwynedd am ddyfodol eu hardal leol. Gall pobl Gwynedd lenwi’r holiadur:
- ar-lein drwy ymweld â gwefan Dweud Eich Dweud Gwynedd a dewis eu cymuned lleol o’r ddewislen;
- drwy geisio copi papur o’r llyfrgell neu Siop Gwynedd lleol;
- drwy ffonio Galw Gwynedd (01766 771 000) i ofyn am gopi papur drwy’r post.
Bydd yr holl ymatebion yn siapio’r gwaith o flaenoriaethu a datblygu 13 cynllun adfywio lleol unigryw ar gyfer cymunedau Gwynedd dros y 15 mlynedd nesaf. Y cam nesaf wedyn fydd cydweithio a chyd-ddatblygu datrysiadau gyda sefydliadau, grwpiau ac unigolion.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:
“Oherwydd ein tirwedd, maint daearyddol a’r ffyrdd mae ein cymunedau wedi datblygu, mae gan bob bro, dinas a thref yng Ngwynedd ei chymeriad, ei chryfderau a’i heriau unigryw ei hun.
“Nod ‘Ardal Ni 2035’ ydy gwneud y gorau o’r balchder a’r angerdd sydd gan bobl Gwynedd yn eu cymuned gan osod y pwyslais yn sgwâr ar y lleol.
“Drwy adnabod datrysiadau o lawr gwlad i fyny, gallwn adeiladu ar yr hyn sy’n dda yn lleol, mynd i’r afael â’r pethau sydd ddim cystal a sbarduno’r cydweithio lleol fydd yn adfywio ein cymunedau.
“Mae gan bob un ohonom farn am yr hyn sydd angen digwydd yn ein bröydd, ac mae barn a phrofiad pob un ohonom yn cyfri.
“Rwy’n erfyn felly a’r bawb o bobl Gwynedd i fynd ati i lenwi holiadur ‘Ardal Ni 2035’. Mae’r cwestiynau yn syml, yn hawdd eu dilyn, a drwy sbario ychydig funudau byddwch yn cyfrannu at y nod o sicrhau fod adfywio lleol yn seiliedig ar eich blaenoriaethau chi fel y bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn.”
Yn ogystal â chlywed barn pobl leol am beth y dylai blaenoriaethau adfywio fod ar gyfer eu hardaloedd, mae holiadur byr hefyd ar agor i’w lenwi ar wefan Dweud Eich Dweud Gwynedd sy’n holi am anghenion tai pobl leol. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor wrth baratoi cynlluniau tai mewn cymunedau yn y sir.