Teithiau o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor
Dyddiad: 05/02/2020
Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas casgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor o mis Chwefror hyd at mis Ebrill 2020.
Bydd y daith ym mis Mawrth yn cael ei harwain gan yr Athro Helen Wilcox o’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth ac yn cynnwys darlleniadau o farddoniaeth berthnasol i’r lluniau yn ogystal â barddoniaeth newydd.
Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma yn y Brifysgol, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.
Mae’r teithiau tywys yn rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor i gynyddu mynediad i gasgliadau amgueddfeydd y Brifysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.
Bydd y teithiau tywys yn dechrau o fynedfa Prif Adeilad y Brifysgol, Ffordd y Coleg, Bangor am 11am ar Ddydd Sadwrn 15 Chwefror, 7 Mawrth a’r 18 Ebrill.
Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r teithiau tywys, gofynnir i chi gadw eich lle gan mai dim ond lle i 15 person sydd ar bob taith. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Storiel ar 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.llyw.cymru
Llun: Plât o gasgliad celf a serameg Prifysgol Bangor.