Darlun o Gaernarfon yn cael ei gyflwyno i Ysgol Maesincla
Dyddiad: 04/02/2020
Mewn digwyddiad yn ddiweddar yn Ysgol Maesincla fe wnaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd gyflwyno darlun lliwgar o Gaernarfon a wnaed gan ddisgyblion yr ysgol yn ôl yn 1969.
Fe ddaeth staff Llyfrgell Caernarfon ar draws y darlun tra’n ailwampio storfa’r llyfrgell dros yr haf, a gan ei fod wedi’i storio mewn lle tywyll am yr holl flynyddoedd, mae’r lliwiau yr un mor llachar a chyfoethog ag yr oeddynt dros hanner canrif yn ôl.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros ddatblygu’r Economi a Chymuned: “Am ddarganfyddiad! Mae’r darlun yma yn ddarn bach o hanes y dref sydd yn cynnig dehongliad creadigol o Gaernarfon fel ag yr oedd yn ystod yr 1960au.
“Mae’n ddifyr gweld hen enwau fel Crosville yn y llun, a’r castell yn dominyddu’r treflun fel y mae wedi’i wneud am ganrifoedd.
“Nid oes yna lawer o wybodaeth ar hyn o bryd o ran i ba bwrpas y crëwyd y darlun a pwy wnaeth helpu’r plant efo’r gwaith celf. Ond rydym yn gobeithio bydd y cyhoeddusrwydd yma yn ailennyn hen atgofion cyn-ddisgyblion ac unrhyw un arall a helpodd i greu’r gwaith celf.”
Fe gymerodd y bît-bocsiwr Ed Holden (Mr Phormula) ran yn y digwyddiad hefyd drwy gynnal gweithdy efo’r disgyblion a ysbrydolwyd gan y darlun.
Llun: Y bît-bocsiwr Ed Holden (Mr Phormula) yn cynnal gweithdy efo rhai o ddisgyblion Ysgol Maesincla ar y diwrnod.