Rhannau o Storiel, Bangor i gau dros dro

Dyddiad: 10/08/2022
yi-liu-iWqQIp1vU7w-unsplash
Bydd yr Orielau Hanes yn Storiel Bangor ar gau am y tro yn dilyn diffyg gyda rhan o’r cyfarpar arddangos.

 

Diogelwch y cyhoedd, staff a chreiriau’r amgueddfa yw’r flaenoriaeth felly bydd y rhan yma o Storiel ar gau tra cynhelir gwaith cynnal a chadw brys a gwiriadau diogelwch.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd tra bod hyn yn digwydd a bydd diweddariadau pellach am amserlen y gwaith yn cael eu cyhoeddi cyn gynted a bo modd.

 

Er y bydd yr orielau hanesyddol ar gau, mae’r tair Oriel Gelf a’r siop yn agored fel arfer, ynghyd a’r toiledau ar gyfer defnydd cwsmeriaid. Bydd gweithgareddau neu gyfarfodydd sydd wedi eu trefnu i’w cynnal yn yr ystafelloedd eraill neu ar Lawnt Storiel hefyd yn cael eu cynnal fel arfer.