Diwrnod hwyl i deuluoedd o Wcrain

Dyddiad: 25/08/2022
Poster Diwrnod Hwyl Teuluoedd Wcrain-1

Bydd diwrnod o hwyl i deuluoedd o Wcrain sydd wedi dod i Wynedd drwy gynllun Cartrefi i Wcráin neu’r cynllun Fisa Teulu yn gyfle delfrydol i gymdeithasu a gwneud cysylltiadau newydd, yn ôl y trefnwyr.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Criccieth ddydd Mercher, 31 Awst rhwng 10am-4pm a bydd yn agored i oedolion a phlant o bob oedran o Wcráin.  Mae croeso i’r rhai sy’n mynychu ddod â’u noddwyr neu y teulu sydd wedi cynnig llety iddynt hefyd.

Bydd gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc yn cynnwys gemau, crefft ac amser stori. Gall oedolion fwynhau’r cyfle i wneud ffrindiau newydd a rhannu sgwrs dros baned.

Gan fod pobl sy’n ffoi erchyllter rhyfel yn Wcrain wedi cyrraedd i Wynedd drwy wahanol gynlluniau sy’n cynnig llwybr diogel, mae pryder fod rhai ohonynt yn teimlo’n ynysig. Trefnwyd y Diwrnod Hwyl gan brosiect Cartrefi i Wcráin Cyngor Gwynedd fel ffordd o ddod a phobl at ei gilydd, i greu rhwydweithiau newydd ac i gefnogi’r naill a’r llall.

Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae’r trefnwyr angen gwybod faint o bobl i’w disgwyl felly’n gofyn i bobl gofrestru o flaen llaw drwy anfon e-bost i NoddwyrWcrain@gwynedd.llyw.cymru.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gyngor Gwynedd gyda chyllid grant Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.

I’r rheini sy’n dymuno mynychu, ond nad ydynt yn byw ger Criccieth, atgoffir hwy fod trafnidiaeth am ddim ar gael i ffoaduriaid o Wcrain yng Nghymru hyd at 30 Medi 2022, diolch i Lywodraeth Cymru. Mae holl amserlenni bysiau ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/bws neu defnyddiwch wefan Traveline am amseroedd trenau www.traveline.cymru.

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Goffa Cricieth ddydd Mercher, 31 Awst rhwng 10am-4pm. Mynediad am ddim, ond rhaid i’r rhai sy’n mynychu i gofrestru ymlaen llaw ar NoddwyrWcrain@gwynedd.llyw.cymru. Gall y rhai sy'n dymuno mynychu hefyd gysylltu â'r un cyfeiriad gydag unrhyw gwestiynau am y digwyddiad.