Cyngor Gwynedd yn prynu tir datblygu i godi cartrefi canolraddol ym Mhen Llŷn
Dyddiad: 31/08/2022
Mae Cyngor Gwynedd wedi cwblhau pryniant tir datblygu ym Morfa Nefyn ar gyfer codi tai canolraddol dan gynllun ‘Tŷ Gwynedd’. Dyma’r tir datblygu cyntaf i’r Cyngor ei brynu dan faner y Cynllun Gweithredu Tai, ac mae safleoedd eraill yn cael eu hasesu ar draws y Sir ar hyn o bryd. Dyma gam cyntaf y datblygiad cyffrous hwn a bydd mwy yn cael ei rannu wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Mae prynu tiroedd adeiladu yn un o’r nifer o gynlluniau a gynhwysir yng Nghynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd, ac mae’r Awdurdod yn falch o gyhoeddi’r pryniant cyntaf hwn, a hynny yn un o’r ardaloedd lle mae gwir angen am dai i bobl leol.
Bwriad y Cyngor yw troi’r tir, sydd wedi’i leoli yn rhan o stad bresennol Maes Twnti, Morfa Nefyn, yn gartrefi o safon i bobl Gwynedd. Bydd y tai ar gael naill ai i’w rhentu ar rent canolraddol neu i’w prynu trwy gynllun rhannu ecwiti, fydd yn rhoi rhagor o gyfle i’r rheiny nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol, ond sydd hefyd yn ei chael yn anodd prynu neu rentu ar y farchnad agored.
Rhagwelir, yn ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio, y bydd naw o dai yn cael eu hadeiladu ar y safle dros y blynyddoedd nesaf, a hynny yn dilyn egwyddorion ‘Tŷ Gwynedd’, sef bod y tai yn:
- Fforddiadwy
- Hyblyg – sef y gallu i addasu tŷ i gwrdd ag anghenion trigolion yn y dyfodol
- Cynaliadwy – sef bod y dyluniadau a gwneuthuriad a deunyddiau adeiladu’r tai yn gynaliadwy ac yn hybu’r gadwyn gyflenwi leol
- Ynni-effeithiol – sef anelu i ddefnyddio technegau a’r dechnoleg ddiweddaraf i leihau ôl troed carbon a hwyluso defnydd effeithiol o ynni i breswylwyr
- Gwella llesiant y trigolion sy’n byw ynddynt
Y cam nesaf fydd cynnal arolwg o’r angen yn lleol gan Hwylusydd Tai Gwledig. Rhagwelir y bydd y gwaith hwnnw’n dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Meddai Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:
“Rydw i’n eithriadol o falch fy mod yn gallu rhannu’r newyddion cyffrous ein bod wedi prynu ein tir cyntaf dan y Cynllun Gweithredu Tai.
“Mae’r cyfleoedd a ddaw i drigolion yr ardal diolch i waith caled yr Adran Tai ac Eiddo yn mynd i newid sefyllfa dai unigolion a theuluoedd er gwell yn ardal Morfa Nefyn. Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 40 o bobl yn elwa o’r datblygiad yma pan fydd y tai i gyd wedi’u codi – dyma enghraifft berffaith o’r Cynllun Gweithredu Tai ar waith.
“Mae prynu tir datblygu ar gyfer adeiladu tai yn un prosiect allweddol yn ein Cynllun Gweithredu Tai ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at ddod yn ôl i safle Maes Twnti i weld ein datblygiad yn dod yn fyw gyda chartrefi fforddiadwy i bobl Gwynedd.”
Meddai Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae’n destun balchder i mi fod yn rhan o’r datblygiad cyffrous hwn, a hynny yn sgil trafodaethau positif a chynhyrchiol dros gyfnod o amser rhwng swyddogion a thrigolion lleol.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r pryniant, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb gwerthu tir neu eiddo i’r Cyngor ar gyfer datblygiadau o’r fath i gysylltu â datblygutai@gwynedd.llyw.cymru neu 01766 771000.”
Meddai’r Aelod Lleol dros Forfa Nefyn a Thudweiliog, y Cynghorydd Gareth Tudor Jones:
“Dw i ar ben fy nigon. Dw i’n llongyfarch yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, ac Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd am eu gweledigaeth, a hefyd wrth reswm am ddewis Morfa Nefyn lle mae gwir angen.
“Mae ‘na gymaint o bobl ifanc a theuluoedd ifanc yn gorfod symud o’r ardal i lefydd eraill i fyw, ond yn dymuno aros yn eu cynefin ac eisiau’r hawl i fyw adra. Rŵan, mae ‘na gyfle iddyn nhw gael tŷ am bris rhesymol yn eu pentref genedigol, a sicrhau bod Morfa Nefyn yn parhau yn gymuned hyfyw ac yn gymuned Gymraeg.”
Meddai Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd:
“Mae hi mor gyffrous gweld bod y Cyngor wedi cymryd y blaengaredd i gaffael y darn yma o dir yn un o’r cymunedau hynny y gwyddom, ar ôl Abersoch, y gall fod yn un o’r rhai nesa sydd o dan fygythiad o golli’r gwead cymdeithasol - y bobl o bob oedran, y bobl sy’n mynd i’r siop, y rhieni, y plant, y bobl sy’n cadw’r injan dân i fynd, y bobl sy’n cadw’r bad achub i fynd.
“Mae’n anodd i mi ddweud pa mor falch mae hyn yn fy ngwneud i. Mae yma ddyfodol llewyrchus iawn a dw i’n ddiolchgar tu hwnt i Gyngor Gwynedd am hynny.”
Meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd:
“Mae Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd mor bwysig. Dw i’n falch iawn gweld Cyngor Gwynedd yn sicrhau bod ‘na dai yn cael eu hadeiladu ar gyfer Morfa ond hefyd cymunedau eraill yng Ngwynedd.”
I wybod mwy am gynllun Tŷ Gwynedd, ewch i wefan Tŷ Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/ty-gwynedd
I gofrestru neu i weld a ydych yn gymwys ar gyfer cynllun Tŷ Gwynedd, ewch i: www.taiteg.org.uk/cy/am-i-eligible-to-apply
Yn y cyfamser, mae’r Cyngor yn parhau i chwilio am safleoedd eraill addas er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau i bobl Gwynedd brynu neu rentu tai ar draws y Sir.
Lluniau:
1 – O’r chwith: Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd; y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd; Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; y Cynghorydd Gareth Tudor Jones, Aelod Lleol dros Forfa Nefyn a Thudweiliog.
Dyma ddolen i fideo sydd ar Youtube yn dangos y safle: Cyngor Gwynedd yn prynu tir datblygu ym Morfa Nefyn - YouTube