Cyngor Gwynedd yn adnewyddu Cei Aberdyfi

Dyddiad: 19/08/2022
Cei Aberdyfi
Bydd prosiect gwerth £4.4 miliwn gan Gyngor Gwynedd yn Aberdyfi yn sicrhau defnydd o'r cei i'r dyfodol.

Bydd y cynllun – sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru a Chynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd – yn adnewyddu wal y cei, sydd wedi dirywio dros amser.

Bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu’r wal bresennol, ail-wynebu a gwella mynediad i fewn ac allan o’r dŵr ar gyfer yr holl ddefnyddwyr.

Disgwylir i’r Gwaith ddechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi a chael ei gwblhau ym mis Ebrill 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Jones, Aelod Cabinet Gwynedd sy’n gyfrifol am Wasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd, sydd yn cyflawni’r gwaith: “Mae’r lanfa yn hollbwysig i nifer fawr o weithgareddau’r harbwr sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi leol Aberdyfi.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn monitro’r sefyllfa’n ofalus dros y blynyddoedd. Rhoddwyd mesurau mewn lle i arafu’r cyrydiad ond bellach mae’r amser wedi dod i adnewyddu wal y cei yn gyfan gwbl.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau ac rwy’n hyderus y bydd yn dod â hwb i’r gymuned leol yn Aberdyfi.”

Ychwanegodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James: “Wrth i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, rwy’n falch o fod yn darparu 85% o’r cyllid ar gyfer y gwaith hwn i Gyngor Gwynedd drwy ein Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol.

“Rhaid i gymunedau arfordirol addasu i lefel y môr yn codi a bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud yn union hynny, drwy wella’r amddiffyniad rhag llifogydd ac erydu arfordirol i 20 eiddo yn Aberdyfi.

“Bydd y gwaith hefyd yn darparu buddion ehangach trwy warchod y lanfa, sydd, rwy’n gwybod, yn hollbwysig i’r economi leol.”

Yn ystod y cyfnod adeiladu bydd angen cyfyngu mynediad i'r lanfa a'r ardaloedd cyfagos gan gynnwys rhai o'r maes parcio cyfagos. Bydd mynediad wedi'i nodi'n glir ar y safle.

Mae Cyngor Gwynedd yn ddiolchgar i gymuned Aberdyfi am eu hamynedd tra fod y gwaith yn mynd rhagddo ac amhariad y fywyd bob dydd pobl a busnesau lleol. Gall aelodau’r cyhoedd gysylltu â thîm y prosiect gydag unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gwaith drwy e-bostio: ceiaberdyfi@gwynedd.llyw.cymru.