Clefyd Gwywiad yr Onnen – penodi tîm i ddiogelu'r cyhoedd

Dyddiad: 18/08/2022

Gyda chanran sylweddol o goed Onnen yn debyg o farw o achos Clefyd Gwywiad Yr Onnen dros y blynyddoedd nesaf, mae Cyngor Gwynedd wedi penodi tîm penodol i weithio ar y maes ac i helpu i ddiogelu’r cyhoedd.

Mae staff y Cyngor yn cynnal arolygon diogelwch ar draws y sir, ac yn canolbwyntio ar diroedd lle gallai coed sydd wedi eu heintio beryglu aelodau’r cyhoedd.

Math o ffwng yw’r clefyd, sy’n ymosod ar goed ynn gan eu difrodi’n ddrwg, a gall hefyd eu lladd. Cafodd y ffwng ei ddarganfod ym Mhrydain am y tro cyntaf yn 2012, ac mae lledaenu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Os ydych chi’n berchennog tir lle mae yna goed Onnen, gallwch helpu i adnabod yr afiechyd hwn trwy gadw llygad am y symptomau canlynol:

  • Blotiau du, yn aml ar waelodion a phrif wythiennau dail; a dail yn gwywo;
  • Smotiau bach, tywyll ar risgl a changhennau; os caiff y rhisgl ei blicio, mae’r pren oddi tano â lliw brown neu lwydaidd, yn lle’r lliw golau naturiol;
  • Dail, egin, brigau a changhennau marw.

Os bydd coeden heintiedig yn cael ei adnabod ar eiddo, bydd y perchennog yn derbyn llythyr yn amlinellu eu dyletswydd i sicrhau diogelwch .

Dywedodd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd :

“Mae’n ffaith drist y bydd y mwyafrif o goed Onnen ar draws y wlad yn cael eu heffeithio gan y clwyf yma dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hynny wrth gwrs yn cael effaith amgylcheddol ac mae cynlluniau gennym i blannu tair coeden newydd am bob Onnen fydd y cael eu colli i’r clwyf yma dros y blynyddoedd nesaf.

“Yn ogystal â bod yn ddolur llygad ar y tirwedd, mae coed sydd wedi cael eu taro gan y clefyd yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd petai coed neu frigau ynn ddisgyn ar ffyrdd ac adeiladau.

“Fel Cyngor cyfrifol, rydym wedi penodi tîm i arolygu’r nifer sylweddol o goed Onnen sy’n y sir – ar dir cyhoeddus mae’r awdurdod yn gyfrifol amdano er mwyn diogelu’r cyhoedd. Ond hefyd, mae staff yn cynghori perchnogion tir o’u cyfrifoldebau i sicrhau nad yw cyflwr unrhyw goeden yn achosi risg gormodol i bobl, neu dir cyfagos.

“Gyda chymaint o goed Onnen ar draws y wlad, mae’n anorfod y bydd yna effaith ar dirfeddianwyr ac rydym yn falch o fod yn cydweithio gyda’r undebau ffermio wrth dynnu sylw at y pwnc pwysig yma.”

Meddai Gwynedd Watkin o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW):

“Mae’n sefyllfa anffodus iawn sydd y tu hwnt i reolaeth amaethwyr. Mi all olygu costau yn rhedeg i filoedd o bunnoedd i rai ffermwyr i gael gwared o’r coed Ynn sydd wedi marw ar eu tiroedd, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

“Gall hyn redeg at hyd yn oed degau o filoedd ble mae ffermwr gyda llawer o dir yn terfynu gyda phriffordd neu lwybrau cyhoeddus lle gall y gost fod yn aruthrol.

“Heb os mae’n hanfodol sicrhau nad oes unrhyw un yn dioddef unrhyw fath o niwed yn sgil dyfodiad y clwyf yma a byddwn yn annog ein haelodau i gydweithio gyda’r Awdurdod Lleol i wneud beth bynnag fydd ei angen yn y modd mwyaf ymarferol bosib.

“Mae croeso i aelodau gysylltu gyda ni fel Undeb am gyngor neu arweiniad.”

Dywedodd Iestyn Pritchard o Undeb NFU Cymru:

“Mae adroddiadau niferus o goed sydd yn dioddef yn sgil Gwywiad yr Onnen ar draws yr ardal bellach.  Gyda safleoedd sy’n gyfagos i fynediad cyhoeddus mae risg gwirioneddol i dirfeddianwyr. Fe fyddem yn annog unrhyw un sydd yn bryderus am y sefyllfa er eu tir i gysylltu hefo eu Swyddfa NFU Cymru leol neu NFU Call First ar 0370 845 8458.”

Am  gyngor sut i drin coeden Onnen gyda Clefyd Gwywiad yr Onnen, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/onnen