Canlyniadau TGAU Gwynedd 2022
Dyddiad: 25/08/2022
Mae Cyngor Gwynedd wedi llongyfarch disgyblion y sir ar lwyddiant eu canlyniadau TGAU.
Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:
“Mae’r rhain yn ganlyniadau da iawn; mae’r disgyblion i’w llongyfarch yn fawr. Rydym yn awyddus i weld pob un o’n pobl ifanc yn llwyddo. Hoffwn ddiolch i athrawon a staff yr ysgolion am eu gwaith caled a chyson trwy gydol y flwyddyn.”
Wrth longyfarch y disgyblion ar eu llwyddiant, dywedodd Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:
“Mae canlyniadau TGAU yn dda iawn eleni ac yn dyst i ymroddiad ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau iddynt am eu gwaith caled a’u llwyddiant.
“Mae’r canlyniadau da hyn yn adlewyrchu’r pwyslais a roddir yn ysgolion Gwynedd ar gynhwysiad, cyfle cyfartal a llwyddiant disgyblion fel unigolion, sydd wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod anodd diweddar.
Cyfeiriodd Garem Jackson at lwyddiannau amlwg mewn rhai pynciau unigol.
Meddai: “Mae’r canlyniadau yn dda mewn nifer o bynciau ond yn arbennig yn y pynciau canlynol: Mathemateg, Gwyddoniaeth, Saesneg ac Addysg Gorfforol.