Arddangosfa John Wickens Ffotograffydd o Fangor
Dyddiad: 17/08/2022
27 Awst - 15 Hydref
JOHN WICKENS Ffotograffydd o Fangor
Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno detholiad bychan o waith y ffotograffydd John Wickens (1864-1936). Roedd yn briod â merch y ffotograffydd ac argraffydd o Fangor, John Williams. Erbyn 1889 fe restrir John Wickens yn y Suttons Directory of North Wales fel un o bedwar ffotograffydd a weithiai ym Mangor gan iddo gymryd drosodd busnes ei dad yng nghyfraith yn 10 The Crescent, Bangor Uchaf. Yn ddiweddarach agorodd stiwdio newydd a alwyd yn Retina Studio yn 2 Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf ac erbyn 1903 yr oedd hefyd yn berchen ar y Photographic Studio yn 43 Stryd Fawr, Bangor.
Arddangoswyd rhai o’i ffotograffau mewn arddangosfeydd a drefnwyd gan y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn y Palas Grisial yn ogystal a’r arddangosfa gelf a chrefft yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ym 1902 fe’i dderbyniwyd fel aelod o’r Orsedd o dan yr enw “Gwawl-lunydd”. Yn ystod yr Eisteddfod hon cafodd ei gyfle cyntaf i dynnu lluniau o gynrychiolwyr y cenhedloedd Celtaidd. Comisiynwyd John Wickens i dynnu nifer o gyfresi o luniau swyddogol yn ogystal a phortreadau o ddinasyddion blaenllaw megis David Lloyd George. Tynnodd nifer o luniau hefyd â oedd yn dangos bywyd gwaith a chymdeithasol pob dydd pobl yr ardal yn ogystal â golygfeydd lleol.
Yn yr arddangosfa gwelir rhai golygfeydd o ddinas Bangor a’r ardal gyfagos ynghyd a lluniau swyddogol o gynrychiolwyr y Gyngres Geltaidd pan iddynt gwrdd yng Nghaernarfon yn 1904.
Bu farw ym 1936 yn saith deg ag un oed ac fe dalwyd teyrnged iddo yn y papurau newydd lleol fel “famed photographer”.
Mae’r ffotograffau a’r sleidiau gwydr gwreiddiol yn rhan o gasgliad ffotograffau Gwasanaeth Archifau Gwynedd.
Y Gyngres Geltaidd: Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog ym 1898 trafodwyd y syniad o ffurfio Undeb Pan Geltaidd a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymru, Iwerddon, Llydaw, yr Alban, Ynys Manaw a Chernyw. Bwriad yr Undeb Pan-Geltaidd oedd hyrwyddo diwylliant a ieithoedd y cenhedloedd Celtaidd drwy gynnal gweithgareddau a oedd yn ymwneud â iaith, chwaraeon brodorol, cerddoriaeth a gwisgoedd cenedlaethol. Yn ogystal byddai’n fodd o feithrin cysylltiadau a chyd-weithio rhwng y gwledydd. Cynhalwyd y gyngres gyntaf yn Nulyn ym 1901 a’r ail yng Nghaernarfon ym 1904. Daeth y gyngres hon i ben gyda chyngerdd a ddenodd gynulleidfa o dros bedair mil o bobl. Ond gyda’r rhyfel byd cyntaf ar y gorwel a’r byd yn newid yn gyflym fe bylodd y diddordeb yn y math hyn o fudiadau. Cynhalwyd y gyngres olaf yng Nghaeredin ym 1907 ac erbyn 1913 roedd y mudiad wedi dod i ben.
STORIEL ar agor Mawrth - Sadwrn 11.00 - 5.00
Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd LL57 1DT , 01248 353 368