Annog landlordiaid i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru
Dyddiad: 03/11/2016

Geraint Martin a Justin Craig Jones o Wasanaeth Tai Cyngor Gwynedd mewn digwyddiad galw-heibio Rhentu Doeth Cymru diweddar
Annog landlordiaid i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru
Mae cyfraith newydd wedi ei chyflwyno sy'n gofyn i bob landlord ac asiant sy'n rheoli eiddo yng Nghymru gofrestru erbyn 23 Tachwedd 2016.
Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am y ddeddf fydd mewn gorfodaeth o 23 Tachwedd 2016 ymlaen. Mae’r Cyngor am atgoffa landlordiaid bod angen cofrestru, ymgymryd â hyfforddiant a chael trwydded erbyn 23 Tachwedd 2016 yn unol â'r ddeddf.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd: “Pwrpas y gyfraith newydd yw sicrhau bod llety rhent yn ddiogel, derbyniol, yn cael ei reoli’n dda a bod tenantiaid yn cael eu hamddiffyn.
“Mae’n ofynnol gan Rentu Doeth Cymru bod pob landlord yn cofrestru ac fod gan asiantaethau a landlordiaid sy’n hunan reoli drwydded. Mae’r Cyngor wedi cynnal cyfres o sesiynau am y mater, ond os nad ydych chi wedi cofrestru eto, rydym yn galw ar landordiaid i fynychu un o’r sesiynau fydd yn cdael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf, neu gysylltu gyda’r Adran Dai i drafod.”
Ychwanegodd Richard Hughes, Uwch Swyddog Technegol Tai Cyngor Gwynedd: “Mae ein neges i landlordiaid yn syml- os nad ydych wedi cofrestru eich busnes, rydych wir angen gwneud hynny nawr neu wynebu cosb ariannol. Mae cofrestru ar-lein neu dros y ffon yn hawdd a sydyn, os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â ni neu dewch draw i’n sesiynau galw heibio am sgwrs.”
Bydd sesiynau yn cael eu cynnal ar gyfer landlordiaid sydd angen cofrestru ac i denantiaid sydd eisiau gwybodaeth am drwydded eu landlord yn:
- Swyddfeydd y Cyngor, Penarlâg, Dolgellau 4/11/2016 10am-3pm
- Swyddfeydd y Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli 18/11/2016 10am-3pm
- Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon 25/11/2016 10am-3pm
Os ydych yn awyddus cael mwy o wybodaeth am Rentu Doeth Cymru ac i wneud cais gallwch glicio yma: www.rhentudoeth.llyw.cymru neu ffoniwch 03000 133344.