Is-ddeddfau draenio tir 2019
Rhybudd Cyngor Gwynedd
Ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â Mabwysiadu Is-ddeddfau Draenio Tir Cymru
Is-ddeddfau Draenio Tir 2019 Cyngor Gwynedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r is-ddeddfau yma ac mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu eu mabwysiadu yn eu cyfanrwydd. Mae angen yr is-ddeddfau i gryfhau’r rheolaeth o sustemau draenio tir Gwynedd.
Fel rhan o’r broses mabwysiadu mae angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r cyfnod ymgynghori yn gorffen ar 20/12/2018 sef o leiaf mîs o ddyddiad cyhoeddi’r ymgynghoriad. Gellir gweld copi drafft o’r is-ddeddfau yn:
- Unrhyw Siop Gwynedd
- Llyfrgelloedd y Cyngor
- Safle wê Cyngor Gwynedd
Os byddwch yn teimlo fod angen gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau dylid eu cyfeirio yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad canlynol:
- Uned Rheoli Risg Llifogyd ac Erydiad Arfordirol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Neu drwy e-bost at: FCRMU@gwynedd.llyw.cymru
Os byddwch angen rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r uchod gallwch gysylltu â:
Rhydian Roberts
Prif Beiriannydd, Uned Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol
01286 679115
Dyddiedig: 15/11/2018
Huw Williams
Pennaeth YGC
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
LL55 1SH