Holiadur Gwasanaethau Tai Cyngor Gwynedd
Bydd Cyngor Gwynedd yn lansio Siop Un Stop newydd ar gyfer yr holl wasanaethau tai yn hwyrach ymlaen eleni.
Bwriad y gwasanaeth newydd ydi creu un drws ffrynt clir a rhwydd i aelodau'r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a chymorth ar bob mater sy'n ymwneud â thai.
Hoffem dderbyn eich adborth ar y gwasanaethau hyn er mwyn ein helpu i sefydlu Siop Un Stop a fydd yn gweithio i chi. Mae’n bwysig derbyn eich mewnbwn er mwyn sicrhau bod yr Adran Dai yn darparu'r gofal cwsmer gorau bosib.
Rhoi eich barn
Ymateb i’r holiadur
Dyddiad cau’r holiadur: 12 Chwefror 2023