Effaith Covid-19 ar Rentwyr Preifat
Cyfle i denantiaid preifat fynegi barn ar effaith Covid-19 ar denantiaeth.
Mae 1 mewn 5 aelwyd yng Ngogledd Cymru’n denantiaid preifat. Mae’r coronafeirws a’r cyfnodau clo wedi effeithio ar bob un ohonom. I denantiaid preifat, gallai’r effaith fod wedi arwain at galedi a mwy o risg o ddigartrefedd.
Mae Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn ymgynghori â thenantiaid preifat i weld sut maent yn delio ag effeithiau Covid-19.
Mae cynghorau Gogledd Cymru a’u partneriaid yn cynnig ystod o wasanaethau i denantiaid preifat fel:
- cyngor a chymorth i denantiaid preifat i’w hatal rhag colli tenantiaethau;
- helpu gyda chyllidebu a gwneud y gorau o incwm;
- cyfeirio at gefnogaeth ar gyfer cam-drin domestig;
- hawliau tenantiaeth ac os nad yw’n bosibl arbed tenantiaeth, cymorth i ddod o hyd i lety arall.
I helpu cynghorau lleol i gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau wrth symud i 2021, dyma wahodd tenantiaid preifat i lenwi holiadur byr a rhannu eu profiadau. Wedi’i greu mewn partneriaeth â TPAS Cymru – y gwasanaeth cyfranogiad tenantiaid – bydd yr holiadur hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi am le i fynd am gyngor neu gymorth. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gofrestru gyda Phwls Tenantiaid – llais tenantiaid yng Nghymru. Mwy o wybodaeth am Bwls Tenantiaid ar gael yma. Mae gan bawb sy’n cofrestru ar gyfer Pwls Tenantiaid y cyfle i ennill gwerth £150 o dalebau siopa.
Cwblhau'r holiadur
Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 30 Rhagfyr 2020.