Ymgynghoriad Cynllun Y Cyngor 2023–2028

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 3 Ionawr 2022.

Pwrpas Cynllun y Cyngor yw gosod gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2028 a dangos pam ein bod am ganolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau mewn rhai meysydd. Rydym hefyd yn ei hadolygu’n flynyddol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i wneud y pethau sy’n bwysig i bobl Gwynedd.

Yn dilyn ymgynghoriad eang gyda phobl Gwynedd fel rhan o gynllun Ardal Ni yn ystod 2022, ynghyd a nifer o drafodaethau ac adborth gan drigolion y sir a thu hwnt, mae cyfres o flaenoriaethau wedi eu hadnabod a fydd yn caniatáu i ni gwrdd â’n huchelgais i ddatblygu gwasanaethau ac i ystyried dulliau newydd ac arloesol o ddelio a’r heriau i drigolion Gwynedd.

Mae’r Cynllun ar gyfer y 5 mlynedd nesaf yn adeiladu ar gyfres o brosiectau sydd wedi eu cyflawni yn ystod cyfnod Cynllun 2018-23.

Gyda pandemig Covid-19 yn gweddnewid bywydau pawb, bu raid i’r Cyngor ddargyfeirio llawer o’i adnoddau yn ystod y cyfnod hwn i ddelio gyda’r argyfwng, ac mae effeithiau’r argyfwng yn parhau ar ein cymunedau

Mae’r sefyllfa economaidd bresennol yn y DU yn debygol iawn o arwain at doriadau i gyllidebau cynghorau, ac wrth i’r galw am ein gwasanaethau gynyddu bydd angen unwaith eto i ni ystyried dulliau gwahanol o ddarparu gwasanaethau ynghyd a sut y gallwn gydweithio er mwyn sicrhau fod pawb yng Ngwynedd yn cael y gwasanaeth gorau posib.

Unwaith eto bydd angen i gymunedau Gwynedd sefyll gyda’i gilydd. 

 

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 3 Ionawr 2022.