Ymgynghoriad Strategaeth Cyfranogiad
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 12:00, 23 Ionawr 2022
Dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad sy’n nodi’r ffyrdd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses y Cyngor o wneud penderfyniadau.
Nod Strategaeth Cyfranogiad y cyhoedd felly yw annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a nodi’r trefniadau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu rhoi ar waith i ymwreiddio diwylliant o bartneriaeth gyda’r cyhoedd.
Yn y strategaeth ddrafft rydym wedi ceisio egluro sut y bydd ein hamcanion o ran cyfranogiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â phobl yng Ngwynedd. Mae ein amcanion wedi eu dangos yn glir yn y strategaeth ddrafft, sy’n cyd-fynd a gofynion penodol yn y Ddeddf ynghylch cynnwys y strategaeth. O fewn pob amcan, rydym wedi nodi canlyniadau clir a chamau gweithredu.
Dyma Strategaeth Cyfranogiad Ddrafft Cyngor Gwynedd.
Yn dilyn yr ymgynghoriad bydd y Strategaeth Ddrafft yn cael ei adolygu gan arwain at argymell ffurf terfynol i'r Cabinet ac yna i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ffurfio rhan allweddol o greu y Strategaeth gyfredol yn ei ffurf derfynol.
Disgwylir y bydd y Strategaeth yn esblygu ac yn gwella dros amser wrth i arferion da ddod i’r amlwg ac wrth i dechnoleg ddatblygu ymhellach.
Dyma ein Strategaeth gyntaf a byddwn yn adolygu ei weithrediad.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 12:00, 23 Ionawr 2022