Ymgynghoriad Premiwm Treth Cyngor
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 28 Hydref 2022.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnig i gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor.
Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw yn unig nac yn brif gartref person ac sydd wedi ei ddodrefnu'n sylweddol. Mae hyn yn gallu cynnwys eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau tymor byr sy’n ddarostyngedig i Dreth Cyngor ac sydd ddim yn gymwys am eithriadau statudol.
Diffinnir eiddo gwag hir dymor fel eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth am gyfnod di-dor o flwyddyn o leiaf.
Ym Mawrth 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru y grym i awdurdodau lleol i gynyddu uchafswm y Premiwm Treth Cyngor o 300%, o 1 Ebrill 2023 ymlaen.
Gweld dogfen gefndir Ymgynghoriad Premiwm Treth Cyngor 2022
Rhoi eich barn
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 28 Hydref 2022.
Beth fydd yn digwydd neaf?
Bydd canlyniadau’r ymarferiad yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Chabinet y Cyngor cyn i’r Cyngor Llawn ddod i benderfyniad terfynol ar 1 Rhagfyr 2022 ar lefel y Premiwm ar gyfer 2023/24.