Pa wasanaethau sy'n bwysig i chi?
Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg cyhoeddus “Pa wasanaethau sy’n bwysig i chi?”.
Fe wnaeth o gwmpas 2,500 o bobl a sefydliadau Gwynedd gymryd rhan yn yr ymarferiad a bydd y prif negeseuon a gasglwyd yn derbyn ystyriaeth lawn wrth i gynghorwyr Gwynedd gytuno ar y strategaeth ariannol dros y misoedd nesaf.
Mae’r cadarnhad terfynol o’r setliad ariannol gan y llywodraeth ar gyfer 2019/20 yn golygu fod Cyngor Gwynedd yn wynebu bwlch ariannol o bron i £13 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig.
Dywedodd Dilwyn Williams, Prif Weithredwr y Cyngor:
“Yr hyn sy’n glir o’r ymarferiad ymgysylltu diweddar ydi fod nifer fawr o wasanaethau cyhoeddus mae’r Cyngor yn eu darparu yn bwysig neu’n hanfodol i bobl Gwynedd neu i garfan neu gymuned benodol o fewn y sir.
“Yn unol a’r hyn mae trigolion wedi ei ddweud, mae’r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet Gwynedd ar 18 Rhagfyr yn argymell fod y Cyngor yn gweithredu £1.5 miliwn o arbedion effeithlonrwydd pellach er mwyn gwarchod gwasanaethau rheng-flaen cymaint a phosib. Fel cam ychwanegol i osgoi torri gwasanaethau, byddwn hefyd yn ystyried amrywiol ffyrdd o gynyddu incwm, rhywbeth na fydd yn boblogaidd gyda phawb efallai, ond sy’n gam fyddai’n galluogi cynghorwyr i amddiffyn mwy o wasanaethau rheng-flaen.
“Y dasg heriol i gynghorwyr dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf fydd ystyried yr opsiynau posib cyn cytuno fel Cyngor llawn ar strategaeth ariannol derfynol ar gyfer 2019/20. Fel rhan o’r broses, bydd cyfle pellach yn fuan yn y flwyddyn newydd i bobl Gwynedd gyflwyno unrhyw sylwadau ar y cynigion manwl.”
Y camau nesaf:
- Bu Cabinet Cyngor Gwynedd gyfarfod ar y 18 Rhagfyr 2018 i ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad.
- Yn dilyn hynny, bu holl gynghorwyr Gwynedd drin a thrafod yr holl gynigion posib i gyfarch y diffyg ariannol. Fe gafodd trigolion y sir gyfle i ymateb i’r cynigion manwl yn ystod yr Ymgynghoriad Strategaeth Ariannol.
- Ar 7 Mawrth 2019, cafodd holl gynghorwyr Gwynedd gyfarfod a chytunwyd ar y strategaeth ariannol derfynol ar gyfer 2019/20.
Cliciwch yma i weld yr adroddiad yn llawn.