Ail-fodelu'r Gwasanaeth Ieuenctid
Fe wnaeth y Cyngor gynnal holiadur i ddyfodol y Gwasanaeth Ieuenctid rhwng y 13eg o Dachwedd a 22ain o Ragfyr 2017.
I weld canlyniadau’r ymgynghoriad ewch i:
Bu’r adborth yr ymgynghoriad gerbron y Cabinet ar y 13eg o Fawrth, 2018 lle penderfynwyd cymeradwyo mabwysiadu’r model o Glwb Ieuenctid Sirol.
Yng nghyfarfod llawn o’r Cyngor ar y 3ydd o Fai, gofynnwyd i’r Cabinet ail-ystyried elfennau penodol o’r model newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid y Sir a hynny oherwydd pryder am y newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolion, yr effaith ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir a’r effaith ar yr iaith Gymraeg.
Yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet ar y 12fed o Fehefin, 2018 penderfynwyd:
- Neilltuo hyd at £50,000 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer sefydlu cronfa i gynorthwyo Cynghorau Cymuned sydd yn dymuno cynnal Clwb Ieuenctid i bontio’r sefyllfa ariannol hyd y byddent yn sefydlu eu trefn ariannu eu hunain ar gyfer Ebrill 1af 2019;
- Dirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd i sefydlu trefn reoli ddarbodus ar gyfer rheoli gwariant y gronfa.
Mae’r model ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid bellach wedi ei fabwysiadu.