Holiadur Diogelwch Cymunedol

Y camau nesaf yw cynnal gweithdy ar y cyd gyda nifer o asiantaethau statudol a thrydydd sector, i greu Cynllun Diogelwch Cymunedol.
Bwriad y cynllun dilynol ar gyfer 2018/19 yw adeiladu ar y gwaith eang a wnaed dros y blynyddoedd diweddar sydd wedi arwain at leihad sylweddol mewn trosedd ac anrhefn yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Bydd y Cynllun yn canolbwyntio ar feysydd gwaith a fydd yn cael eu datblygu yn ystod 2018/19.
Byddent yn cymryd i ystyriaeth arolwg diweddar diogelwch cymunedol a gomisiynwyd yng Ngwynedd a Môn. Bydd dadansoddiad pellach o'r canlyniadau yn cynorthwyo i lunio rhai o'r allbynnau, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Bydd y cynllun hefyd yn ystyried
- asesiad strategol yr Heddlu
- canllawiau a'r blaenoriaethau a sefydlwyd gan y Bwrdd Cymunedau Diogelwch Gogledd Cymru.