Holiadur Clwb Brecwast

Fe wnaeth y Cyngor gynnal ymgynghoriad ar y ddau opsiwn isod, er mwyn cael barn pobl Gwynedd drwy ofyn iddynt gwblhau holiadur byr.  Roedd gan drigolion hyd at 1 o Fedi 2017 i gwblhau’r arolwg.

Y ddau opsiwn dan ystyriaeth oedd: 

a)     darparu brecwast am ddim rhwng 8.25yb* a 8.50yb*, a chael gwared o'r gofal plant cyn-ysgol am ddim sy’n cael ei ddarparu rhwng 8yb* a 8.25yb*;

b)     darparu brecwast am ddim rhwng 8.25yb* a 8.50yb* a chyflwyno ffi am ddarparu gofal plant ar gyfer y rheini sydd yn awyddus ei dderbyn rhwng 8yb* a 8.25yb*. Pe byddai’r cynnig yma yn cael ei ddewis, ni fyddai unrhyw ffi yn cael ei godi ar gyfer y brecwast ysgol am ddim rhwng 8.25yb* a 8.50yb*. 

*amseroedd enghreifftiol yn unig

Ar y 3ydd o Hydref 2017, cytunodd y Cabinet i godi ffi o £0.80 am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast, gan roi disgownt i deuluoedd gyda 3 neu ragor o blant gyda’r trefniadau hynny i gychwyn ar yr 8fed o Ionawr 2018.

Mwy o wybodaeth: