Ymgynghoriad cartref Y Frondeg

Mae cyfnod ymgynghori ar ddyfodol cartref y Frondeg, Maesincla, Caernarfon, a’r bwriad i ddatblygu model llety newydd ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu wedi dod i ben. 

Bu’r cyfnod ymgynghori rhwng 14 Medi hyd at 30 Hydref 2015.

 

Penderfyniad y Cabinet ar ddyfodol Cartref Y Frondeg

Cyflwynwyd adroddiad i Gabinet y Cyngor ar 19 Ionawr 2016, ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ynghyd ac argymhellion i dderbyn penderfyniad ar y ffordd ymlaen.  Dyma ganlyniadau'r ymgynghoriad.