Her Gwynedd
Canlyniadau arolwg ymgynghoriad cyhoeddus Her Gwynedd
Rhwng Medi a Rhagfyr 2015, dechreuodd y Cyngor ar y broses o adnabod toriadau posib i wasanaethau drwy gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr ledled Gwynedd lle gwahoddwyd trigolion, busnesau a sefydliadau i ddweud eu dweud ar y ‘rhestr hir’ o 118 opsiynau toriadau i wasanaeth sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus, cyflwynwyd dros 2,100 o ymatebion i’r holiadur gan drigolion, busnesau a sefydliadau Gwynedd gyda dros 615 o aelodau o’r cyhoedd yn mynychu cyfres o 32 fforymau cyhoeddus neu sesiynau galw heibio.
Canlyniadau'r arolwg ac atodiadau
Gwybodaeth gefndirol
Mae eglurhad llawn o bob opsiwn ar gyfer toriadau i’r gwasanaethau unigol yn yr holiadur ar gael yn y
Mae crynodeb o'r her ariannol sy'n wynebu Cyngor Gwynedd ar gael drwy
Y camau nesaf
Mae canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael eu hystyried mewn manylder gan bob un o'r 75 o Gynghorwyr yng Ngwynedd fel rhan o’u gwaith o gytuno ar restr derfynol o doriadau a fydd yn weithredol o Ebrill 2016 ymlaen.
Cafodd adroddiad ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 16 Chwefror (eitem 14b).
Yna cafodd yr argymhellion eu cyflwyno i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth, roedd rhaid i bob un o’r 75 o gynghorwyr Gwynedd gytuno ar restr o wasanaethau i’w torri fel rhan o’r
broses o gytuno strategaeth ariannol y Cyngor ar gyfer 2016/17.