Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd
Teithio Llesol
Daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i rym ym mis Medi 2014.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol i Awdurdodau Lleol fynd ati’n barhaus i wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a pharatoi mapiau sy’n nodi’r llwybrau y gallwn eu defnyddio ar hyn o bryd yn ogystal â llwybrau arfaethedig y gallwn eu defnyddio yn y dyfodol.
O dan y Ddeddf mae hefyd yn ofynnol bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn y cyfnod dylunio.
Daeth cyfnod ymgynghori llwybrau cyfnod cyntaf sydd wedi eu harchwilio i ben ar 10 Ionawr 2016.
Ond, bydd 6 wythnos ychwanegol o gyfnod ymgynghori gyda’r Cyhoedd o 4 Gorffennaf 2016 hyd at 15 Awst 2016, bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn ymwneud a’r llwybrau ychwanegol sydd wedi eu harchwilio (Llwybrau Ail Gyfnod).
Anfonwch unrhyw ymgynghoriad i teithiollesol@gwynedd.llyw.cymru
Yn dilyn o’r ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol, cynhyrchwyd adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru sydd yn amlygu casgliadau Cyngor Gwynedd o’r ymgynghoriad, datganiad sydd yn cyfeirio tuag at lwybrau yng Ngwynedd a fethodd yr archwiliad a chopïau o fapiau llwybrau presennol ar gyfer y tri anheddiad sydd wedi eu harchwilio.
Adroddiad Mapiau Llwybrau Teithio llesol presennol
Datganiad mapiau llwybrau presennol Cyngor Gwynedd
Llwybrau Cerdded wedi'u harchwilio (Llwybrau Cyfnod Cyntaf)
Llwybrau Beicio wedi'u harchwilio (Llwybrau Cyfnod Cyntaf)
Llwybrau Cerdded wedi’u harchwilio (Llwybrau Ail Gyfnod)
Llwybrau Beicio wedi'u harchwilio (Llwybrau Ail Gyfnod)
Amserlen
- 22 Ionawr 2016 Cyflwyno Mapiau o’r Llwybrau Presennol i Lywodraeth Cymru - Mae’r raddfa amser hon wedi cael ei hymestyn i Fedi 2016.
- 24 Medi 2017 Cyflwyno Map o’r Rhwydwaith Integredig ac ailgyflwyno’r Map o’r Llwybrau Presennol i Lywodraeth Cymru.
- 24 Medi 2020 Ailgyflwyno’r Map o’r Llwybrau Presennol a’r Map o’r Rhwydwaith Integredig i Lywodraeth Cymru.
Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth
E-bost: teithiollesol@gwynedd.llyw.cymru
Ffôn: 01286 679 413