Telerau ac amodau Siopau Gwynedd

  1. Rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw er mwyn cael mynediad i Siopau Gwynedd Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau.
  2. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn ystod yr apwyntiad (os nad ydych wedi eich eithrio am reswm meddygol).
  3. Dylech drefnu apwyntiad, dim ond os nad yw’n bosib i chi gysylltu â ni ar-lein drwy lenwi ein ffurflen Ymholiad Cyffredinol neu dros y ffôn drwy ffonio Galw Gwynedd: 01766 771000.
  4. Dim ond 2 person gaiff fod yn yr ystafell yn ystod yr apwyntiad.
  5. Er eich diogelwch chi a staff, dewch â beiro efo chi er mwyn cwblhau / arwyddo dogfennau.
  6. Peidiwch â chyrraedd fwy na 5 munud cyn amser dechrau eich apwyntiad.
  7. Bydd hyd yr apwyntiad hyd at 15 munud. Os na fyddwn wedi datrys eich ymholiad yn yr amser yna, byddwn yn trefnu apwyntiad arall cyfleus i chi ddod yn ôl.
  8. Er mwyn ein helpu i ddatrys eich ymholiad mewn un apwyntiad, dewch â phob gwybodaeth / dogfennau perthnasol gyda chi i’r apwyntiad.
  9. Er mwyn ein helpu i ddatrys eich ymholiad mewn un apwyntiad, byddwn yn defnyddio systemau y Cyngor i wneud gwaith ymchwil cyn eich apwyntiad, ar sail yr wybodaeth rydych yn ei roi wrth archebu.
  10. Gall Swyddog o’r Cyngor gysylltu â chi cyn eich apwyntiad i gael mwy o wybodaeth neu i ddatrys eich ymholiad dros y ffôn.
  11. Peidiwch â mynychu’r apwyntiad os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19 yn ystod y 10 diwrnod cyn eich apwyntiad, neu wedi bod mewn cysylltiad efo unrhyw berson sydd efo symptomau COVID-19 yn ystod yr 14 diwrnod cyn eich apwyntiad.
  12. Os nad ydych yn gallu dod i’r apwyntiad am unrhyw reswm, cysylltwch â ni mor fuan â phosib er mwyn i ni gynnig yr apwyntiad i rhywun arall, drwy e-bostio fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.