Blog yr Arweinydd
Croeso i flog y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd y Cyngor.
Cyfle i ddarllen am yr hyn sy'n digwydd yn y Cyngor a sut rydym yn gweithio'n galed i wneud Gwynedd yn lle gwell i bawb.
I weld manylion cyswllt y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ac i weld gwybodaeth am aelodaeth pwyllgorau a phenodiadau i gyrff allanol ac ati, ewch i'w dudalen proffil:
Tudalen proffil y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Ar ddechrau tymor newydd ... – Blog Ebrill
Mae’r gwanwyn yma o’r diwedd, a gallwn ni i gyd edrych ymlaen at ddyddiau hirach a thywydd gwell. Mae rhai pethau cyffrous ar y gorwel, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, sy’n prysur agosáu. Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda'r trefnwyr i wneud yn siŵr bod yr ŵyl ym Moduan yn un i’w chofio!
Er bod digon i edrych ymlaen ato, rydym hefyd yn gwybod bod llawer yng Ngwynedd yn cael trafferth gyda chostau byw cynyddol. Cofiwch, os ydych yn cael hi’n anodd talu biliau mae cymorth ar gael gan y Cyngor a sefydliadau eraill. Ewch i gael golwg ar ein tudalen gwefan sy’n rhestru’r hyn sydd ar gael: Costau byw
Tra bod y rhagolwg ariannol i ni o fewn y Cyngor hefyd yn llwm o ganlyniadau i benderfyniadau trychinebus yn Westminster, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau, ac mae ein cynllun pum mlynedd yn un uchelgeisiol tu hwnt. Mae’r cynllun yn cynnwys ffrydiau gwaith arloesol fel darpariaeth drochi Cymraeg, mynd i’r afael â heriau recriwtio, a darparu cymorth ataliol yn lleol i helpu pobl i fyw’n annibynnol yn hirach. Mae'r cynllun hwn yn dangos pa mor ymroddedig ydym i gadw ein haddewidion i bobl Gwynedd.
Moderneiddio ein hysgolion: Buddsoddi yn nyfodol ein plant
Mae buddsoddi yn addysg ein plant yn bwysig ar gyfer eu llwyddiant i’r dyfodol. Un ffordd y gallwn gyflawni hyn yw drwy ddarparu amgylcheddau dysgu diogel a chyfredol.
Yn ddiweddar, buddsoddodd y Cabinet £3 miliwn i uwchraddio cyfleusterau Ysgol Hirael, Bangor, i wneud yr ysgol yn wyrddach a mwy cyfforddus i staff a myfyrwyr, tra hefyd yn arbed costau cynnal a chadw. Yn ogystal, mae Gwynedd wedi ennill cystadleuaeth Her Ysgolion Cynaliadwy, gan dderbyn bron i £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ysgol ecogyfeillgar newydd sbon ym Montnewydd. Mae hyn yn llwyddiant ysgubol - dim ond tair ysgol yng Nghymru gyfan a lwyddodd, a ni yw'r unig un yn y gogledd.
Hoffwn longyfarch holl aelodau’r tîm a weithiodd yn galed ar y ddau brosiect. Edrychaf ymlaen at weld effaith gadarnhaol y buddsoddiad ar blant y sir.
Fy marn ar Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru...
Mae penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i beidio â buddsoddi mewn prosiectau seilwaith ffyrdd i’r dyfodol yn warthus, fyrbwyll ac yn bygwth bywoliaeth ein cymunedau ac economi wledig yma yng Ngwynedd. Sut y gallent wneud dewis mor ddi-hid heb ystyried y diffyg enbyd o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch yn ein cefn gwlad?
Mi fuodd y Cyng. Dafydd Meurig a minnau mewn cyfarfod ag Arglwydd Burns, sy’n arwain y Comisiwn, yn ddiweddar er mwyn mynegi ein pryderon a chefais hefyd ddal fyny un-i-un gyda Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi i Lywodraeth Cymru, lle mynegais yn glir iawn pa mor ddinistriol fydd y penderfyniad hwn i’n trigolion. Nid ydym ar ein pennau ein hunain yn ein pryderon - mae holl Arweinwyr siroedd Gogledd Cymru a Phrif Swyddogion o Heddlu a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru hefyd wedi anfon llythyr at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Walters MS, yn galw ar frys am gyfarfod i drafod ein pryderon.
Er fy mod yn cytuno yn llwyr fod angen gweithredu’n gadarn i leihau ein hôl troed carbon, rwy’n bryderus iawn am yr effaith ar ardaloedd gwledig y sir, lle mae angen buddsoddiad seilwaith difrifol ar gyfer llesiant economaidd a chymdeithasol. Dyma eto enghraifft o benderfyniad yn cael ei wneud ymhell i ffwrdd o Wynedd, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fyw i realiti’r sefyllfa a gweithredu’n gyflym i gefnogi ein cymunedau ac ein heconomi wledig.
Arfor 2: Hybu’r Gymraeg a’r Economi
Newyddion gwych! Mae Bwrdd ARFOR wedi derbyn £11 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun Arfor 2, er mwyn cefnogi ffrydiau gwaith amrywiol ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, a Sir Gaerfyrddin hyd at fis Mawrth 2025.
Bydd Arfor 2 yn hyrwyddo Llwyddo'n Lleol a Cymunedau Mentrus i gynorthwyo entrepreneuriaid ifanc a gofodau Cymraeg eu hiaith. Bydd Cronfa Her yn datblygu ac yn peilota gweithgareddau i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r rhanbarth, tra bydd rhaglen Monitro, Gwerthuso a Dysgu yn gwerthuso'r cynllun yn ei gyfanrwydd. Yn olaf, bydd ffrwd waith Hunaniaeth yn canolbwyntio ar sut mae busnesau’n defnyddio’r Gymraeg, yn ogystal â dylanwadu ar fusnesau di-Gymraeg.
Bydd cynllun Arfor 2 yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi a chryfhau’r iaith Gymraeg a’r economi ar draws y pedair sir. Mae’n gyffrous gweld y ffrydiau gwaith arloesol ac uchelgeisiol hyn yn dod i’r amlwg a’r effaith gadarnhaol y byddant yn ei chael ar y rhanbarth. Tudalen we Arfor