Tatŵio a thriniaethau tyllu'r corff ac eraill

Mae’n rhaid i unrhyw un sydd yn gwneud tatŵs, yn lliwio'r corff yn lled-barhaol, yn tyllu’r corff neu’n cynnig triniaethau electrolysis ac aciwbigo i aelodau o’r cyhoedd yng Ngwynedd gofrestru gyda Chyngor Gwynedd.

 

Os ydych yn gweithio o eiddo, bydd angen i’r eiddo gael ei gofrestru hefyd.

 

Wedi i chi gofrestru, byddwch yn derbyn tystysgrif cofrestru.

 

Meini prawf cymhwysedd
Bydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol yn cynnwys manylion am yr eiddo ac unrhyw euogfarnau blaenorol am weithredu heb drwydded yn y maes hwn.

 

Bydd ffi yn daladwy.

 

Gwneud cais
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

 

Deddfau perthnasol
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

 

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

 

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

 

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).