Mae'r prawf ysgrifennu 15 munud hwn wedi'i gynllunio i brofi eich:
- sgiliau rhifedd a gofal cwsmer
- gwybodaeth ddaearyddol/ gwybodaeth o'r ardal leol
- eich dealltwriaeth o reolau ac amodau Tacsi.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gwblhau'r prawf heb unrhyw gymorth. Dim ond chi a'r Swyddog Trwyddedu fydd yn bresennol pan fyddwch chi'n cwblhau'r prawf.
Gwybodaeth a dealltwriaeth
Mae'r prawf yn brawf ysgrifenedig.
Bydd y prawf yn profi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o theori gyrru, Rheolau'r Ffordd Fawr, arferion gyrru da a materion yn ymwneud â'r diwydiant tacsi
Os ydych yn methu'r prawf, gallwch ofyn am ail-brawf am gost ychwanegol o £9.50.
Mae angen o leiaf o 24 awr rhwng methu'r 'Prawf Gwybodaeth Tacsi' gwreiddiol a sefyll yr 'ail-brawf'.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau'r 'Prawf Gwybodaeth Tacsi' yn llwyddiannus bydd eich ffurflen gais lawn yn cael ei phrosesu.