Rhybudd digwyddiad dros dro

Byddwch angen gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro os yn cynnal ddigwyddiad ad-hoc a fydd yn cynnwys unrhyw un o'r isod yng Ngwynedd:

  • gwerthu neu gyflenwi alcohol
  • cynnal adloniant reoledig e.e. canu byw neu chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio
  • darparu bwyd poeth rhwng 11pm a 5am yng Ngwynedd.

Mae ffi o £21 am gyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros Dro.

 

Gwneud cais

Cofiwch ddarllen y nodiadau canllaw sydd ar ddiwedd y ffurflen gais yn fanwl cyn gwneud eich cais. Ni fydd ad-daliadau ar gael.

Mae'n bwysig cyflwyno'r cais mewn da bryd - oleiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
Os bydd yn cael ei dderbyn rhwng 5 a 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad bydd yn yn cael ei ystyried fel rhybudd hwyr.

Os na fydd 5 diwrnod gwaith llawn cyn y digwyddiad, bydd yn cael ei ystyried fel cais annilys. 

Mae 2 gam ar gyfer cyflwyno cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro

Byddwch angen fersiwn diweddar o Adobe Reader (fersiwn 11 neu uwch).

Wedi i chi lawrlwytho'r ffurflen, safiwch hi ar eich cyfrifiadur a'i chwblhau. Pan fydd y ffurflen wedi ei chwblhau gallwch symud ymlaen i'r ail gam.

 


Byddwch yn derbyn ebost awtomatig yn cydnabod bod eich cais wedi ei anfon, yn ogystal â derbyneb am eich taliad. Byddwch yna yn derbyn ebost gan y Swyddog Trwyddedu yn cydnabod derbyn eich cais yn ystod y diwrnod gwaith llawn nesaf.

Byddwn yn anfon copi o'ch ffurflen ymlaen at yr Heddlu ac at Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

Cyflwyno cais dwy’r post:

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais a’i hanfon wedi’i chwblhau at unrhyw un o'r cyfeiriadau isod:

  • Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
  • Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA
  • Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa Ardal Meirionnydd, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2YB

 

Neu gallwch adael y ffurflen gais yn unrhyw un o Siopau Gwynedd:

  • Siop Gwynedd Pwllheli
  • Siop Gwynedd Caernarfon
  • Siop Gwynedd Dolgellau

Byddwch hefyd angen anfon copi o'ch ffurflen ymlaen at yr Heddlu ac i Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

Byddwn yn cydnabod derbyn y rhybudd cyn diwedd y diwrnod gwaith cyntaf y derbyniwyd ef.

 

Rhagor o wybodaeth

Os rhoddir gwrth-rybudd mewn perthynas â rhybudd gwrthwynebu gall yr ymgeisydd apelio'n erbyn y penderfyniad. Rhaid apelio yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod. Ni ellir apelio'n hwyrach na phum diwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad arfaethedig.

Gall prif swyddog yr heddlu neu swyddog o Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor sy’n derbyn y rhybudd, gyflwyno rhybudd gwrthwynebiad i’r awdurdod trwyddedu a defnyddiwr y safle. Gwneir hyn os ydynt yn credu y byddai’r digwyddiad yn tanseilio amcanion trwyddedu. Rhaid i’r rhybudd hwn gael ei gyflwyno o fewn 48 awr o dderbyn y rhybudd digwyddiad dros dro.

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu lleol gynnal gwrandawiad os cyflwynir rhybudd gwrthwynebiad. Gallant gyflwyno gwrth rybudd os ystyrir hi’n angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo amcanion trwyddedu. Rhaid penderfynu o leiaf 24 awr cyn cychwyn y digwyddiad.

Gall prif swyddog yr heddlu neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor addasu’r RhDDD gyda chydsyniad defnyddiwr y safle. Yn y fath achos ystyrir y rhybudd gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl.

Gall gwrth-rybuddion gael eu darparu gan yr awdurdod trwyddedu os yw nifer yr RhDDD wedi mynd dros y nifer a ganiateir.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Cwynion eraill
Os nad yw awdurdod trwyddedu'n penderfynu rhoi gwrth-hysbysiad mewn perthynas â rhybudd gwrthwynebu gall prif swyddog yr heddlu apelio'n erbyn y penderfyniad. Rhaid apelio yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod. Ni ellir apelio'n hwyrach na 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad arfaethedig.

 

Cofrestr gyhoeddus

Mae digwyddiadau sydd wedi derbyn Rhybudd Digwyddiad Dro yng Ngwynedd i'w gweld ar y gofrestr arlein:   

Cofrestr gyhoeddus o rybudd digwyddiadau dros dro yng Ngwynedd



Manylion cyswllt

Ffôn: 01766 771000
E-bost:  trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru