Gwastraff masnachol
Rydym yn cynnig 4 gwasanaeth:
- Gwastraff
- Ailgylchu cymysg
- Bwyd
- Gwydr
Nid yw casglu gwastraff yn cael ei gynnwys mewn trethi busnes. Mae'r taliad yn cynnwys rhent am y bin, treth tirlenwi, cost cael gwared o'r gwastraff/ailgylchu a chostau gweinyddol
Cytundebau Casglu
Cytundeb blwyddyn - 1 Ebrill hyd at 31 Mawrth
Cytundeb Haf - 1 Ebrill hyd at 30 Medi
Os ydych eisiau gwneud cais am gytundeb dros gyfnod gwahanol, cysylltwch â ni ar 01766 771 000.
Rydym yn casglu yn wythnosol. Gallwn drefnu casgliadau bob pythefnos neu yn fisol. Cysylltwch â ni er mwyn trafod y gwasanaeth addas ar gyfer eich busnes.
Maint Biniau
Rydym yn darparu biniau fel rhan o'r gwasanaeth. Gallwch ddewis o'r rhain:
Biniau Gwastraff
- 240 litr
- 360 litr
- 660 litr
- 1100 litr
Ailgylchu Cymysg
- 240 litr
- 360 litr
- 660 litr
- 1100 litr
Gwastraff Bwyd
- 240 litr
- Cadi bwyd 23 litr ar gyfer ei ddefnyddio tu mewn. Rydym hefyd yn darparu bagiau ar gyfer eu rhoi tu mewn i'r cadi 23 litr
Gwydr
- 140 litr
- 240 litr
- 360 litr
- 660 litr
Os nad oes gan eich busnes le i gadw biniau mawr, rydym yn cynnig gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu cymysg mewn bagiau. Byddwn yn darparu bagiau clir ar gyfer yr ailgylchu cymysg fel rhan o'r gwasanaeth.
Digwyddiadau
Os ydych yn trefnu digwyddiad (er enghraifft gig neu ŵyl), mae modd i ni drefnu casgliad ar eich cyfer. Byddwn angen manylion y digwyddiad (maint a lleoliad) i allu rhoi pris.
Am bris, gyrrwch e-bost at:
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni am brisiau neu unrhyw wybodaeth pellach ar: