Gwaharddiad ysmygu

Y Cyngor sy'n gyfrifol am sicrhau fod busnesau a sefydliadau o fewn y sir yn gweithredu’r gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus. 

Gall y dogfennau a'r templedi canlynol hon gynorthwyo busnesau a sefydliadau i gydymffurfio gyda'r gwaharddiad:

  • canllawiau i gyflogwyr - sut i sicrhau fod eich sefydliad yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau  
  • rheoliadau mangreoedd di-fwg - y rheoliadau eu hunain, sy'n cynnwys manylion am y gofynion, y diffiniadau a’r gosb o beidio â chydymffurfio
  • canllawiau llochesi ysmygu - arweiniad am y math o strwythurau derbyniol, pryd mae angen caniatâd cynllunio, a chyngor ynglŷn â lle i osod llochesi ysmygu.
  • arwyddion dim ysmygu (linc allanol) - gellir lawrlwytho'r arwyddion statudol dim ysmygu ar gyfer adeiladau a cherbydau.  Os ydych am i Gyngor Gwynedd anfon arwyddion atoch, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.
  • templed polisi di-fwg - awgrymir fod busnesau a sefydliadau yn datblygu ac yn gweithredu polisi di-fwg ysgrifenedig. Dyma enghraifft o ffurf derbyniol ar gyfer y polisi gan Lywodraeth y Cynulliad (ar gael yn Saesneg yn unig).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Ngwynedd, neu os ydych am roi gwybod inni am unrhyw achos ble mae'r rheoliadau wedi cael eu torri, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:

Cyfeiriad:  Swyddog Gorfodaeth Gwaharddiad Ysmygu, Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd, Swyddfa Ardal Arfon, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1BN
Ffôn:  01766 771000
E-bost: gwarchodycyhoedd@gwynedd.llyw.cymru