Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd 22 Mai 2023
Mae Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd yn gyfle unigryw i fusnesau a sefydliadau sy’n gweithredu yng Ngwynedd ddod at ei gilydd i gwrdd, dysgu a rhannu a datblygu syniadau a strategaethau newydd.
Beth i’w ddisgwyl
Mae’r digwyddiad yn cynnig trosolwg o hinsawdd busnes yn Ngwynedd, yn ogystal â throsolwg o’r math o gymorth sydd ar gael i fusnesau wrth iddynt lywio’r heriau sy’n eu wynebu.
- Bydd bore’r digwyddiad yn canolbwyntio ar 3 busnes lleol, gan rannu straeon am yr heriau maent wedi wynebu a’r cyfleon sydd wedi codi drwy fod yn arloesol.
- Bydd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar y cymorth ymarferol sydd ar gael gan sefydliadau cymorth busnes yng Ngwynedd.
Yn y bore bydd yna cyfle i glywed straeon 3 fusnes lleol o sut maent wedi delio hefo heriau a wynebwyd yn yr blynyddoedd diwethaf ac sut maent wedi ffeindio ffyrdd arloesol i barhau hefo ei busnesau.
- Harlech Foodservice
- Tanya Whitebits
- Pant Du
Yn yr prynhawn bydd yna gyfle i glywed am yr hinsawdd fusnes gan Dr Edward Jones, darlithydd mewn Economeg o Brifysgol Bangor ac yr sefydliadau cymorth isod ynglŷn a sut all nhw rhoid cymorth ymarferol i fusnesau yn Ngwynedd, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn a grantiau cymorth busnes gan Cyngor Gwynedd.
- Busnes Cymru
- Busnes@ Llandrillo Menai
- Banc Datblygol Cymru
- Purple Shoots
- Tim Cymorth Busnes Cyngor Gwynedd
Bydd yr sefydliadau isod hefo stondinau yn yr digwyddiad ac ar gael i gynnig cymorth ac gwybodaeth ynglŷn a’i gwasanaethau.
- Gwaith Gwynedd
- Byw’n Iach
- Hwb Menter
- Busnes@ Llandrillo Menai
- ARFOR
Gwybodaeth bellach
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 22 Mai 2023.
Digwyddiad hybrid yw hwn felly mae’n bosib ymuno â ni yn Pant Du, Penygroes neu ymuno ar-lein drwy Zoom. Os yn ymuno â ni yn Pant Du bydd te a choffi ar gael wrth i gyrraedd a bydd cinio ysgafn ar gael
Bydd drysau Pant Du ar agor o 9:45yb i’r ddigwyddiad gychwyn am 10yb.
Lleoliad
- Pant Du, Penygroes, LL54 6HE
NEU
Cofrestru i fynychu
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar 22 Mai 2023 anfonwch y manylion canlynol i busnes@gwynedd.llyw.cymru
- Enw
- Enw'r busnes neu sefydliad
- Mynychu ar-lein neu mewn person?
Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch yn agosach i’r amser gyda manylion pellach.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth ynglŷn a’r digwyddiad cysylltwch â Busnes@gwynedd.llyw.cymru