Neges bwysig i holl fusnesau Gwynedd
gan y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi
Ar ran pobl Gwynedd, hoffwn ddiolch i holl fusnesau’r sir am eu hymdrechion i gefnogi a chadw ein cymunedau yn ddiogel drwy gydol cyfnod yr argyfwng Coronafirws.
Rwyf wedi rhyfeddu at yr holl enghreifftiau o fusnesu lleol sydd wedi newid eu gweithgaredd a’u harferion i barhau i wasanaethau ein trigolion a’r busnesau hynny sydd wedi aberthu eu bywoliaeth dros dro er da pawb.
Gyda Llywodraeth Cymru yn cychwyn llacio ar y cyfyngiadau rydym bellach yn symud i gyfnod newydd – ond cyfnod sydd, mewn sawl ffordd, yn fwy heriol. Rydym am weithio'n adeiladol gyda'n busnesau a'n cymunedau i sicrhau ein bod yn cefnogi ein gilydd trwy'r cyfnod nesaf gan gynnal ffocws cryf ar ddiogelu iechyd pobl Gwynedd ochr yn ochr â chefnogi bywoliaethau.
Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd ein busnesau ac yn barod i’ch cefnogi i ailagor a masnachu yn ddiogel a byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau eich bod gyda mynediad at y wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth ddiweddaraf i'ch helpu i addasu ac adfer; felly sicrhewch eich bod yn cadw llygad barcud ar ein tudalen Cymorth i Fusnesau a @BusnesGwynedd ar Twitter a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau rheolaidd.
Ond rhaid cofio fod y coronafirws dal i fod yn ein cymunedau. Bydd yn rhaid gweithio i sicrhau fod y frwydr yn parhau i gael ei hennill ac mae sawl her dal o’n blaenau. Felly gofynnwn yn garedig i chi barhau i fod yr un mor wyliadwrus ac i:
- Ymddwyn yn ddiogel a chyfrifol
Mae dyletswydd arnoch i ddiogelu eich gweithwyr, cwsmeriaid a’ch cymuned.
- Ddangos parch i’n cymunedau lleol
Rydych yn rhan allweddol o’n cymunedau. Dwi’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi fod nerfusrwydd am ledaeniad y firws yn parhau yn sgil achosion diweddar. Mae’r gymuned yn awyddus i’ch cefnogi ond drwy ymgysylltu yn lleol a gweithredu’n bwyllog bydd hyder yn codi
- Fod yn amyneddgar
Bydd cyfyngiadau Covid-19 yn parhau am beth amser. Ni fydd pob gwasanaeth a chyfleusterau cyhoeddus yn gallu agor oherwydd y cyfyngiadau hyn. Mae’n fyd newydd i ni gyd; byddwch yn amyneddgar a pharchu y bydd yn cymryd amser i addasu.