Y Gronfa Cadernid Economaidd

MAE'R GRONFA BELLACH WEDI CAU.

 

 

 

(i fusnesau gyda throsiant o £85,000 neu lai yn arferol)

Beth yw'r Gronfa Cadernid Economaidd?

Cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cyfnod 1 Mai i 30 Mehefin 2021 i fusnesau sydd wedi/yn/am barhau i gael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau mewn ymateb i COVID-19 sydd yn parhau.

 

Pwy sy'n gallu derbyn cymorth?

Yn fras, mae'r cymorth ar gyfer busnesau sydd wedi/yn/am barhau i gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cyfyngiadau (gwybodaeth bellach ar gael yng Nghanllawiau'r Gronfa).

Mae'r cymorth ar gael i fusnesau sy'n derbyn bil Trethi Annomestig ac i fusnesau sydd ddim .

Mae'n rhaid i ymgeiswyr naill ai:

  1. fod yn gorfod aros ar gau rhwng 1 Mai a 30 Mehefin o ganlyniadau o'r cyfyngiadau;
  2. ddim wedi cael agor dan do rhwng 1 Mai ac 17 Mai;
  3. fod yn lleoliad sy'n darparu'n unswydd ar gyfer priodasau a digwyddiadau gyda lle ar gyfer dros 30 o westeion yn arferol;
  4. yn fenter sy'n dibynnu (60% neu fwy o'u gwerthiant) ar gyflenwi busnesau yn y cateogorïau uchod.

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd hefyd fod yn disgwyl colli 60% neu fwy o'u cyfanswm trosiant ar gyfer Mai/Mehefin o'i gymharu a 2019.

Dylai busnesau fyddai gyda throsiant o fwy nac £85,000 y flwyddyn yn arferol (hynny yw heb effaith COVID-19) gyflwyno cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy ymweld â gwefan Busnes Cymru, cyn 12pm ar 16 Mehefin 2021.

Dylai busnesau, wedi eu lleoli yng Ngwynedd, sydd efo trosiant sydd yn llai nac £85,000 y flwyddyn yn arferol (hynny yw heb effaith COVID-19) gyflwyno cais drwy gwblhau'r ffurflen sydd ar waelod y tudalen yma.

Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â phwy sydd yn gymwys i dderbyn cymorth yng Nghanllawiau'r Gronfa - sicrhewch eich bod wedi eu darllen cyn cyflwyno cais.

 

Faint sydd ar gael?

Bydd swm y grant yn amrywio yn unol â sut mae'r busnes wedi ei amharu a'r nifer sydd yn cael eu cyflogi:

cyfyngiadau mai 2021
  1-3 o gyflogai 4-9 o gyflogai
Ar gau'n rhannol/mewn cyfnod pontio   £2,500  £5,000
Busnes cadwyn gyflenwi  £2,500  £5,000
 Lleoliadau priodasau a digwyddiadau gyda lle ar gyfer dros 30 o westeion yn arferol  £3,500  £7,000
 Busnesau fydd wedi gorfod cau gydol Mai a Mehefin 2021  £5,000  £10,000

Gall y nifer o gyflogai gynnwys perchnogion sy'n ennill cyflog drwy dynnu elw o'r busnes a'r nifer o gyflogai cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n cael eu cyflogi drwy'r drefn dalu Talu Wrth Ennill (PAYE) gan y busnes 1 Mai 2021.

Mae mwy o wybodeth yng Nghanllawiau'r Gronfa - sicrhewch eich bod wedi eu darllen cyn cyflwyno cais. 

 

Sut allai gyflwyno cais?

  1. Ewch i wefan Busnes Cymru a chwblhewch y gwiriwr cymhwysedd i weld a ydych chi'n debygol o fod yn gymwys i gael cymorth.
  2. Darllenwch Canllawiau'r Gronfa.
  3. Casglwch y wybodaeth bydd ei hangen arnoch i gwblhau'ch cais (trosiant, nifer cyflogai, ac yn y blaen) a chopi o Fantolen Banc diweddar os nad ydych wedi derbyn arian gan y Cyngor yn flaenorol (i ni allu cadarnhau eich manylion).
  4. Cwblhewch a chyflwynwch eich cais trwy glicio ar y ddolen isod.

 

 

Beth yw'r amserlen?

Bydd y Gronfa yn agor am 12y.p ar 2 Mehefin a bydd yn cau am 5y.p ar 30 Mehefin 2021.

Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau derbyn eich cais wedi iddo gael ei gyflwyno.

Byddwn yn anelu at brosesu ceisiadau grant o fewn 30 diwrnod gwaith wedi i ni dderbyn yr holl dystiolaeth/wybodaeth sydd ei hangen.

 

A oes unrhyw gymorth i gyflwyno'r cais?

Os oes unrhyw faterion hygyrchedd a allai eich atal rhag llenwi ffurflen gais ar-lein, ffoniwch linell gymorth Busnes ar 03000 6 03000.

Gallwch gysylltu â thîm Cymorth Busnes y Cyngor yn uniongyrchol trwy e-bostio             grantiaubusnes@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679231.

 

Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y Gronfa ar gael yma.

Mae'r Canllawiau ar gyfer y Gronfa ar gael yma.

 

Pethau pwysig i'w cofio wrth gyflwyno cais

  1. Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r gwiriwr cymhwysedd a darllen Canllawiau'r Gronfa cyn i chi ddechrau cyflwyno cais.
  2. Sicrhewch eich bod yn cyflwyno cais cyn 5y.p ar 30 Mehefin 2021.
  3. Sicrhewch fod gennych yr holl wybodaeth sy'n ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais ac yn darparu popeth sydd ei angen arno, i asesu'ch cais.
  4. Atebwch yr holl gwestiynau ar y ffurflen gais i'r gorau o'ch gallu.
  5. Gwiriwch eich cais yn ofalus cyn ei gyflwyno.
  6. Cofiwch all cais anghyflawn neu wallus gael ei wrthod.

  

Cadwch yn Saff - Cadwch ar y Blaen

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr cefnogi busnes a dilyn @BusnesGwynedd ar Twitter