Cronfeydd Busnes Cyfyngiadau Chwefror / Mawrth 2021 Llywodraeth Cymru

Mae’r Cronfeydd yma yn ymateb i’r estyniad i gyfyngiadau Lefel Rybudd 4 gyhoeddwyd ar y 29ain o Ionawr.

Mae’r cymorth yn ychwanegol i’r arian darparwyd ar gyfer y cyfnod Rhagfyr 2020 / Ionawr 2021.

Mae’r Cronfeydd yn cael eu gweinyddu gan Gyngor Gwynedd ar ran Llywodraeth Cymru.

DIWEDDARIAD:
Mae’r Cronfeydd bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd.  Mae ceisiadau sydd eisoes wedi eu cyflwyno yn parhau i gael eu hasesu.

I fusnesau sydd yn derbyn bil ar gyfer Trethi Annomestig (hyd yn oed nad oes os gofyn i dalu unrhyw beth) mae’r cymorth canlynol ar gael (canllawiau yma):

Grant 1

(ar gyfer eiddo gyda gwerth trethadwy o £12,000 neu lai)

UN o’r canlynol:

  • Taliad o £3,000 i fusnesau mae’r rheoliadau yn mynnu eu bod yn cau (canllawiau yma).

Bydd busnesau cymwys dderbyniodd cymorth ar gyfer Rhagfyr 2020 / Ionawr 2021 yn derbyn y taliad yma yn uniongyrchol erbyn 26 Chwefror 2021 fan bellaf – nid oes angen cyflwyno cais.

Os yn fusnes cymwys sydd ddim wedi hawlio taliad yn flaenorol, allwch dal geisio am gymorth – cliciwch isod i gyflwyno cais:

MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU.

  • Taliad o £3,000 i fusnesau sy’n cyflenwi busnesau mae’n ofynnol iddynt gau sydd gyda gostyngiad o 40% neu fwy yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd.

Os yn gymwys, allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen cais syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:

MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU. 

Grant 2

(ar gyfer eiddo gyda gwerth trethadwy rhwng £12,001 a £51,000)

UN o’r canlynol:

  • Taliad o £5,000 i fusnesau mae’r rheoliadau yn mynnu eu bod yn cau (canllawiau yma).

Bydd busnesau cymwys  dderbyniodd cymorth ar gyfer Rhagfyr 2020 / Ionawr 2021 yn derbyn y taliad yma yn uniongyrchol erbyn 26 Chwefror 2021 fan bellaf – nid oes angen cyflwyno cais.

Os yn fusnes cymwys sydd ddim wedi hawlio taliad yn flaenorol, allwch dal geisio am gymorth – cliciwch isod i gyflwyno cais:

MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU. 

  • Taliad o £5,000 i fusnesau sy’n cyflenwi busnesau mae’n ofynnol iddynt gau sydd gyda gostyngiad o 40% neu fwy yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd.

Os yn gymwys, allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen cais syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:

MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU. 

Grant 3

(ar gyfer eiddo gyda gwerth trethadwy rhwng £51,001 a £150,000)

Grant 4 NEWYDD

(ar gyfer eiddo gyda gwerth trethadwy rhwng £150,001a £500,000)

UN o’r canlynol:

  • Taliad o £5,000 i fusnesau mae’r rheoliadau yn mynnu eu bod yn cau (canllawiau yma).

Bydd POB busnes cymwys yn y garfan yma angen cwblhau ffurflen syml - cliciwch isod i gyflwyno cais:

MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU. 

  • Taliad o £5,000 i fusnesau sy’n cyflenwi busnesau sydd wedi eu gorfodi i gau sydd yn gallu dangos (ar sail hunan ddatgan) gostyngiad o 40% neu fwy yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd.

Os yn gymwys, allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:

MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU. 

COFIWCH DIM OND UN TALIAD ALL BUSNES EI DDERBYN (UCHAFSWM O DDAU EIDDO).

SICRHEWCH EICH BOD YN DARLLEN CANLLAWIAU’R GRONFA CYN CYFLWYNO EICH CAIS.

ALL BUSNES SY’N GYMWYS AR GYFER Y CYMORTH YMA DDIM CYFLWYNO CAIS I’R GRONFA DDEWISOL (WELE ISOD).

I fusnesau bach sydd ddim yn derbyn bil Trethi Annomestig mae’r cymorth canlynol ar gael (canllawiau yma):

UN o’r canlynol:

  • Taliad dewisol o £2,000 i fusnesau bach mae’r rheoliadau yn mynnu eu bod yn cau neu sydd wedi eu gorfod i gau o ganlyniad i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4.

Os yn gymwys (canllawiau yma) allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:

Mae'r gronfa bellach wedi cau

  • Taliad dewisol o £2,000 i fusnesau bach sydd yn gallu dangos gostyngiad o 40% neu fwy yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau.

Os yn gymwys (canllawiau yma) allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:

Mae'r gronfa bellach wedi cau

COFIWCH DIM OND UN TALIAD ALL UNRHYW FUSNES EI DDERBYN.

SICRHEWCH EICH BOD YN DARLLEN CANLLAWIAU’R GRONFA CYN CYFLWYNO CAIS.

BYDD ANGEN I FUSNESAU SYDD HEB DDERBYN CYMORTH YN FLAENOROL GAN GYNGOR GWYNEDD (O’R GRONFA GWEITHWYR LLAWRYDD, Y GRONFA BUSNESAU NEWYDD NEU’R CRONFEYDD DEWISOL) DDARPARU COPI DIGIDOL O FANTOLEN BANC DIWEDDAR - SICRHEWCH FOD COPI WRTH LAW CYN I CHI GYCHWYN EICH CAIS.

NID YW BUSNESAU SYDD YN GYMWYS I DDERBYN Y CYMORTH AR GAEL I FUSNESAU SY’N TALU TRETHI BUSNES (WELE UCHOD) YN GYMWYS I DDERBYN CYMORTH O’R GRONFA YMA.

Cofiwch gadw ar y blaen drwy ymweld â www.gwynedd.llyw.cymru/BusnesCOVID19 yn rheolaidd, cofrestru ar gyfer cylchlythyr cefnogi busnes y Cyngor a’n dilyn @BusnesGwynedd