Cronfa Adferiad Diwyllianol Cymru – Cronfa i Weithwyr Llawrydd

Beth yw’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd?

Cymorth ariannol ar gyfer gweithwyr llawrydd sy’n parhau i wynebu heriau yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021 o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.


Pwy gaiff wneud cais?

Gweithwyr llawrydd proffesiynol sy’n gwneud gwaith â chanlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol, ac sy'n gweithio yn y is-sectorau canlynol: Celfyddydau; Diwydiannau Creadigol; Celfyddydau a Threftadaeth; Digwyddiadau; Diwylliant a Threftadaeth.

Gweithiwr llawrydd yw rhywun sy'n cael ei gomisiynu i gynhyrchu gwaith neu ddarparu gwasanaeth i gleient, ar sail contract untro neu dymor byr.

(Gwybodaeth bellach ar gael yng Nghwestiynau Cyffredin a Chanllawiau y Gronfa).


Sut fydd y ceisiadau yn cael eu blaenoriaethu?

Mae'r gronfa wedi'i thargedu at weithwyr llawrydd sy'n parhau i gael eu heffeithio gan COVID-19 (cerddorion / y rhai sy'n gweithio mewn digwyddiadau, theatr, priodasau ac ati).

Bydd ymgeiswyr sydd ddim wedi derbyn cymorth arall (fel y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig) yn cael eu blaenoriaethu.

Gall ymgeiswyr fod yn gyflogedig rhan-amser ond mae'r Gronfa wedi'i thargedu at y rhai efo’r angen mwyaf am gefnogaeth a bydd incwm yn cael ei ystyried fel rhan o'r asesiad.

Ni ddylech gyflwyno cais os ydych wedi llwyddo i barhau i weithio ar lefelau a welwyd yn y gorffennol gan wneud hynny ar ôl cael cymorth, neu hebddo. Nid yw y Gronfa yn cefnogi gweithwyr llawrydd yn y sector chwaraeon.

(Gwybodaeth bellach ar gael yng Nghwestiynau Cyffredin a Chanllawiau y Gronfa).


Faint fydd ar gael?

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn taliad o £2,500.

Cyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru yw £4miliwn sy'n ddigonol i gefnogi 1,600 o weithwyr llawrydd.


Sut ydych chi'n cyflwyno cais?

1. Ewch i wefan Business Wales a chwblhewch y gwiriwr cymhwysedd (yn fyw 12pm, 17 Mai) i weld a ydych chi'n debygol o fod yn gymwys i gael cymorth (ar ôl i chi gwblhau'r gwiriwr, byddwch chi'n dod yn ôl i'r dudalen hon).

2. Darllenwch y dogfennau Gwestiynau Cyffredin a Chanllawiau y Gronfa.

3. Casglwch y dystiolaeth ategol y bydd ei hangen arnoch i gwblhau'ch cais (Tystiolaeth adnabod, Tystiolaeth cyfeiriad, datganiadau banc, CV ac ati).

4. Cwblhewch a chyflwynwch eich cais trwy glicio ar y ddolen isod:

 

* MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU *

 

 

Beth yw'r amserlen?

Bydd y Gronfa yn agor am 12pm ar yr 17eg o Fai a bydd yn cau am 5pm ar y 1af o Fehefin 2021.

Gan y bydd ceisiadau'n cael eu grwpio yn ôl blaenoriaeth ledled Cymru, dim ond ar ôl y dyddiad cau y bydd asesiad o'r ceisiadau yn dechrau.

Cydnabyddir ceisiadau o fewn 10 diwrnod gwaith.

Byddwn yn anelu at brosesu ceisiadau grant o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl cau'r cronfa.

(Gwybodaeth bellach ar gael yng Nghwestiynau Cyffredin a Chanllawiau y Gronfa).


A oes unrhyw gymorth i gyflwyno cais?

Os oes unrhyw faterion hygyrchedd a allai eich atal rhag llenwi ffurflen gais ar-lein, ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Gallwch gysylltu â thîm Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y Gronfa trwy e-bostio FreelancerWCRF@gov.wales.

Gallwch gysylltu â thîm Cymorth Busnes y Cyngor yn uniongyrchol trwy e-bostio grantiaubusnes@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679231.

 

Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y Gronfa ar gael yma (yn fyw 12pm, 17 Mai).

Mae Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y gronfa ar gael yma.

Mae'r Canllawiau ar gyfer y Gronfa ar gael yma.

Pethau pwysig i'w cofio wrth gyflwyno cais

1. Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r gwiriwr cymhwysedd a darllen y Cwestiynau Cyffredin a Chanllawiau y Gronfa cyn i chi ddechrau cyflwyno cais.

2. Sicrhewch eich bod yn gyflwyno cais cyn 5pm ar 1 Mehefin 2021.

3. Sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau ategol sy'n ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais a darparu popeth sydd ei angen arnom i asesu'ch cais.

4. Atebwch yr holl gwestiynau ar y ffurflen gais gorau ag y gallwch.

5. Gwiriwch eich cais yn ofalus cyn ei gyflwyno.

6. Gwrthodir ceisiadau anghyflawn neu wallus.