Cronfa Croesawu'r Cwsmer yn Ddiogel

Cronfa wedi rhewi i geisiadau newydd

Oherwydd lefel uchel y galw am y gronfa hon, nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd.

Pan fydd cyflwyniadau cyfredol wedi'u hasesu a phrosesu, byddwn yn ailagor y gronfa os bydd arian ar ôl.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Cadwch lygad am ddiweddariadau pellach gan Gyngor Gwynedd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Close

 

Pwrpas y grant

Mae Cronfa Croesawu'r Cwsmer yn Ddiogel wedi cael ei sefydlu i gefnogi busnesau mewn canol trefi a dinasoedd i weithredu'n ddiogel dan heriau eithafol o ganlyniad i Covid-19. Rydym yn cydnabod bod busnesau'n wynebu cyfnod newydd o gynllunio at weithredu drwy fisoedd y gaeaf ac o wneud paratoadau ar gyfer y dyfodol. 

Mae'r gronfa ar gael i fusnesau annibynnol, bach a chanolig eu maint sy'n gweithredu mewn Canol Trefi a Dinasoedd yng Ngwynedd i'w cefnogi i gydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Pwy all wneud cais?

Mae’r grant hwn ar gael i fusnesau a mentrau annibynnol, bach a chanolig eu maint o fewn y lleoliadau isod yng Ngwynedd. Bydd angen i fusnesau fod wedi'u lleoli o fewn y prif ganolfannau masnachol yn y lleoliadau hyn.

1) Bangor
2) Caernarfon
3) Porthmadog
4) Pwllheli
5) Blaenau Ffestiniog
6) Dolgellau
7) Tywyn
8) Aberdyfi
9) Y Bala
10) Abermaw
11) Harlech
12) Penrhyndeudraeth
13) Cricieth
14) Nefyn
15) Abersoch
16) Penygroes
17) Llanberis
18) Bethesda
19) Aberdaron
20) Beddgelert

Bydd busnesau sy'n talu ardrethi busnes i Gyngor Gwynedd yn gymwys ynghyd â busnesau sy'n meddu ar neu wedi gwneud cais am y caniatâd angenrheidiol.

Ar gyfer caniatâd trwydded stryd, cysylltwch â: gwaithstryd@gwynedd.llyw.cymru

Ar gyfer ymholiadau cynllunio yng Ngwynedd (y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri), cysylltwch â: cynllunio@gwynedd.llyw.cymru 

Ar gyfer ymholiadau cynllunio o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, cysylltwch â: cynllunio@eryri.llyw.cymru 


* cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw ganiatâd


Yn ogystal, bydd angen i'r busnes:

Nid yw cwmnïau Cadwyn, Cenedlaethol a Rhyngwladol yn gymwys am gefnogaeth.


Am faint o arian allwch chi wneud cais?

Yn dibynnu ar eich cais, yr isafswm y gellir ei ddyfarnu yw £500 a'r uchafswm yw £2,000. Gall y cyfraniad fod hyd at 80% o werth y gwaith.

Bydd rhaid i’r holl arian gael ei hawlio cyn 22 Chwefror 2021.


Pryd allwch chi wneud cais?

Mae'r gronfa yn awr ar agor am geisiadau ac mae'n seiliedig ar sail cyntaf i’r felin. Nid oes unrhyw ddyddiad cau. 


Beth ellir ei ariannu?

Gall busnesau wneud cais am gymorth ariannol all gyfrannu at ddodrefn stryd ac offer allanol o ansawdd megis:

  • Byrddau allanol
  • Cadeiriau allanol 
  • Cyfleusterau gwasanaethau allanol
  • Sgriniau neu blanhigion allanol
  • Canopi / gorchuddion allanol
  • Gwresogyddion allanol
  • Parasolau allanol

Bydd rhaid i'r holl offer ddiwallu gofynion iechyd a diogelwch a bydd y busnes yn gyfrifol am gael yswiriant a chynnal a chadw'r offer yn gywir a diogel.


Sut i wneud cais? 

Cronfa wedi rhewi i geisiadau newydd

Oherwydd lefel uchel y galw am y gronfa hon, nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd.

Pan fydd cyflwyniadau cyfredol wedi'u hasesu a phrosesu, byddwn yn ailagor y gronfa os bydd arian ar ôl.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Cadwch lygad am ddiweddariadau pellach gan Gyngor Gwynedd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Close

 

Nodyn Canllaw i Ymgeiswyr

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: grantiaubusnes@gwynedd.llyw.cymru