Technoleg arloesol i godi refeniw yn ystod y cyfnodau clo yn dod â gwobr o fri i atyniad poblogaidd

Mae un o atyniadau hynaf ardal Eryri Mynyddoedd a Môr wedi ennill un o wobrau’r diwydiant fel canlyniad i ddod o hyd i ffordd arloesol i godi incwm yn ystod cyfnod clo.

Roedd system gwe-gamerâu Reilffordd Talyllyn yn cael ei mwynhau gan 565,000 o wyliwyr ledled y byd – wedyn daeth y pandemig Covid-19, gan fygwth incwm y Rheilffordd.

Wedi eu hysbrydoli gan boblogrwydd y system gwe-gamerâu, datblygodd Rheilffordd Talyllyn wasanaeth tanysgrifio ar-lein cyhoeddus, sef Canolfan Reoli Talyllyn (CRT), gyda’r cyhoedd yn gallu tanysgrifio iddo am £5 y flwyddyn. Datblygwyd y system gan ddefnyddio arbenigedd mewnol fel rhan o brosiect meistr, mae gan y CRT 400 o danysgrifwyr o gwmpas y byd yn barod. 

Mae’r CRT yn mynd y tu hwnt i’r gwe-gamerâu cyhoeddus gan redeg ochr yn ochr â system reoli fewnol y rheilffordd, sy’n golygu y gall tanysgrifwyr gael mynediad i we-gamerâu ychwanegol sydd ddim ar gael i’r cyhoedd, gan wylio lleoliadau byw y trenau ar hyd y rheilffordd. 

Sgil-effaith annisgwyl ond derbyniol iawn o gyflwyno’r dechnoleg arloesol hon ydi fod Rheilffordd Talyllyn wedi ennill y wobr cyfathrebu mewnol (Internal Communications Award) yng ngwobrau blynyddol cymdeithas yr Heritage Railway Association eleni, ac yn ail am y wobr am y syniad mwyaf arloesol i godi arian (Most Innovative Fundraising Idea Award) i gydnabod ei hymateb i’r pandemig. 

Cafodd y rheilffordd ei henwebu am y wobr olaf hon yn dilyn lansio’r Apêl Ymweliad Rhithiol ddiwedd mis Mawrth. Roedd yr apêl yn annog cefnogwyr i gyfrannu’r swm y byddent wedi ei wario ar ymweliad i’r rheilffordd, gan roi mynediad iddynt i daith gerdded wythnosol ar fideo gydag aelodau tîm Talyllyn yn rhoi diweddariadau o’r tu ôl i’r llenni. Mae’r apêl wedi codi dros £130,000 a chymorth rhodd ar gyfer Rheilffordd Talyllyn, ac mae’n parhau i dyfu’n ddyddiol. 

Dywedodd Jonathan Mann, Cadeirydd Cymdeithas Cadw Rheilffordd Talyllyn: “Mae’r newyddion am y wobr, wrth i ni ailddechrau gwasanaethau i deithwyr yn dilyn cyfnod clo arall, yn gyffrous iawn.  “Mae’r rheilffordd yn dathlu ei 70fed penbwydd o fod y rheilffordd gadw gyntaf yn y byd ar hyn o bryd, ac fe fyddai’n hawdd meddwl ein bod, wedi cyfnod mor hir, wedi cyflawni popeth yr oeddem yn dymuno ei gyflawni. Ond, mae’r wobr yma yn dangos ein bod yn parhau i arloesi ac yn manteisio ar dechnoleg newydd er mwyn ychwanegu at brofiad Talyllyn.”

Daeth Rheilffordd gul Talyllyn yn rheilffordd gadw gyntaf y byd ym 1951 pan ddaeth dan weithrediad Cymdeithas Cadw Rheilffordd Talyllyn. Agorodd yn wreiddiol ar gyfer traffig nwyddau ym 1865, ond cyn bo hir roedd hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau i deithwyr rhwng Tywyn a Nant Gwernol.

Mae’r llinell yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn bennaf, gydag ychydig o staff cyflogedig. Mae Rheilffordd Talyllyn yn atyniad twristiaeth pwysig sy’n cyfrannu’n sylweddol i’r economi leol.

Os hoffech danysgrifio i Ganolfan Reoli Talyllyn, ewch i: bit.ly/talyllyncc os gwelwch yn dda. 

Talyllyn_BMF0396