Bragwr cwrw crefft yng Ngwynedd yn ehangu a chreu swyddi ar ôl derbyn grantiau

Mae bragdy gwobrwyedig ym Mhenygroes wedi derbyn grantiau fydd, ynghyd â chyfraniadau o arian y bragdy ei hun, yn helpu’r busnes i ehangu a chreu swyddi.

Derbyniodd Bragdy Lleu, a sefydlwyd yn 2013, gefnogaeth ariannol drwy Gronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru a’r rhaglen ARFOR.  Mae’r grantiau, gyda chyfraniadau ariannol y bragdy ei hun, wedi cyllido adeiladu Canolfan Ddehongli; prynu fan drydan, offer bragu newydd a wagen fforch godi; cyfraniad tuag at baneli solar; yn ogystal â chyllido dwy swydd am ddwy flynedd.

Mae’r bragdy’n awyddus i gefngi’r economi leol, ac yr un mor angerddol am hanes, diwylliant a iaith Dyffryn Nantlle. Mae cysylltiad cryf y bragdy gyda’i ardal leol yn golygu fod y pedwar cwrw mae’n fragu ar ei safle ym Mhenygroes i gyd wedi’i hysbrydoli gan y Mabinogi – y chwedlau gwerin Cymreig byd enwog sydd a’u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle.

Mae Blodeuwedd yn gwrw euraidd Cymreig gyda nodweddion o flodau’r maes. Mae Lleu yn gwrw melyngoch Cymreig sy’n cyfuno blas haidd a hopys naturiol. Mae Gwydion yn gwrw traddodiadol Cymreig, mae’n gwrw blasus gyda blas cofiadwy; tra mae Bendigeidfran yn gwrw IPA coch Cymreig cryf a blasus. Enillodd y pedwar y wobr Great Taste Award yn 2019, ac yn 2021 derbyniodd Gwydion a Bendigeidfran fedalau yng ngwobrau y Society of Independent Brewers (SIBA). 

Cynhyrchir y cwrw i gyd gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o safon uchel ac yn cael eu gwerthu ledled Cymru a thu hwnt. Yn ogystal â chyflenwi casgenni i dafarndai ar draws gogledd Cymru, mae Bragdy Lleu hefyd yn cyflenwi poteli i dafarndai, siopau a bwytai ar hyd a lled Cymru. Mae bar symudol hefyd, sy’n gwerthu cwrw mewn digwyddiadau, priodasau a dathliadau o bob math. 

Daw’r trydan sy’n pweru’r bragdy o Ecotricity, sy’n sicrhau fod 100% o’r trydan a ddefnyddir yn y bragu o ffynonellau glân a gwyrdd. Bydd y buddsoddiad mewn fan drydan, cam ‘gwyrdd’ arall gan Bragdy Lleu, yn galluogi’r bragdy i ddosbarthu ei gwrw i dafarndai a siopau – yn ogystal â’i ddanfon yn uniongyrchol i stepan drws ei gwsmeriaid, gwasanaeth newydd sy’n dechrau yn 2022.

Bydd y cwmni yn newid ei safle i uned llawer mwy cyn bo hir, safle sydd dim ond 100 metr i lawr y ffordd. Diolch i’r datblygiad hwn, bydd Bragdy Lleu yn gallu cynyddu faint o gwrw sy’n cael ei fragu, gan eu bod wedi buddsoddi’n sylweddol mewn offer bragu newydd sbon.

Bydd y datblygiad newydd hefyd yn cynnwys ‘ystafell dap’, fydd yn galluogi ymwelwyr i alw draw am beint, i samplu’r gwahanol gwrw, ac i fynd ar daith dywys o gwmpas y bragdy i ddeall mwy am gwrw Bragdy Lleu a’r broses bragu.

Am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd Bragdy Lleu hefyd yn cyflogi staff ac yn recriwtio ar gyfer y rolau hyn yn ystod y gwanwyn 2022. Bydd y swyddi newydd yn galluogi’r ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu eu sgiliau yn y maes ac i fod yn rhan o’r fenter yn ystod cyfnod cyffrous iawn. 

Yn fwy na hynny, bydd dau neu dri o gwrw newydd yn cael eu cyflwyno yn 2022, felly mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Bragdy Lleu mewn mwy nag un ffordd!


Bragdy Lleu brewery-135694_47eee_hd