Cynllun gwella platfform digidol

Ydych chi yn fusnes lletygarwch neu yn gynhyrchwr bwyd a diod yng Ngwynedd? Eisiau gwella eich platfform digidol?

Mae prosiect newydd wedi ei lansio sydd yn cynnig cyfle i hyd at 65 o fusnesau lletygarwch a chynhyrchwyr bwyd a diod i fanteisio ar gefnogaeth arbenigol i wella eu platfform digidol dros gyfnod o flwyddyn.

Byddwn yn cydweithio gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn adnabod anghenion digidol penodol busnes, ac yna’n cynnig sesiynau hyfforddiant a mentora i ddiwallu’r anghenion hynny. 

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei deilwra yn benodol i anghenion busnesau sy’n rhan o’r cynllun, a gall gynnwys ystod eang o gyrsiau digidol, er enghraifft:

  • Creu strategaeth marchnata ddigidol
  • Creu neu uwchraddio cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a'i ddefnyddio'n effeithiol
  • Gwella gwefannau a chreu cynnwys deniadol
  • Dadansoddi a defnyddio data digidol yn effeithiol i gryfhau’r busnes
  • Hysbysebu’n ddigidol
  • Diogelwch digidol a GDPR
  • Creu fideos deniadol i’w defnyddio i farchnata
  • Creu neu uwchraddio llwyfan prynu/gwerthu ar-lein
  • Gwella sgiliau digidol cyffredinol
  • Cymorth i wella’r ddarpariaeth Gymraeg a chreu ‘Naws am Le’ yn ddigidol

Fel rhan o’r cynllun bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda phrosiectau Arloesi Gwynedd Wledig i hybu cydweithio rhwng busnesau lletygarwch a chynhyrchwyr a darparwyr bwyd lleol, ac i gryfhau’r gadwyn gyflenwi. Byddwn hefyd yn annog busnesau i ddefnyddio iaith a diwylliant cyfoethog yr ardal i ddenu cynulleidfaoedd ehangach.


Cofrestru eich diddordeb

Os ydych chi yn meddwl y gallai eich busnes chi elwa o'r prosiect yma, cysylltwch â ni drwy lenwi'r ffurflen ar-lein isod:  

Cofrestru diddordeb: Cynllun gwella platfform digidol

 

Mwy o wybodaeth 

Mae unrhyw fusnes yn sector lletygarwch Gwynedd yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun - gallwch fod yn llety gwyliau, bwyty neu gaffi, atyniad i dwristiaid neu yn trefnu gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr i Wynedd.  Yn ogystal â hyn os ydych yn gynhyrchydd bwyd neu ddiod yng Ngwynedd ac yn cyflenwi busnesau lletygarwch, neu yn awyddus i wneud hynny, gallwch fanteisio ar y cynllun.

Prif nod y cynllun gan Cyngor Gwynedd yw gwella sgiliau digidol busnesau er mwyn datblygu eu platfform digidol a’u marchnad. Os ydych chi eisiau diweddaru eich gwefan, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol i farchnata, sefydlu platfform prynu/gwerthu ar-lein i’ch busnes neu uwchraddio eich diogelwch digidol byddwn yn gallu eich cefnogi i wireddu hyn.

Byddwn yn cynnig cymorth o hyd at 3.5 diwrnod o sesiynau wedi eu teilwra yn benodol i chi a all gynnwys mentora 1 i 1, hyfforddiant mewn grŵp neu yn unigol, neu gefnogaeth i brynu meddalwedd arbenigol. Gallwn hefyd eich cefnogi i ddefnyddio eich platfform digidol i hyrwyddo iaith a diwylliant cyfoethog yr ardal er mwyn denu cynulleidfaoedd ehangach.

Bydd angen i’ch busnes lenwi’r ffurflen datgan diddordeb yn gyntaf gan amlinellu pa agweddau o’ch platfform digidol yr hoffech ei wella. Yna byddwn yn eich cyfeirio at Cyflymu Cymru i Fusnesau i fynd ar un o’u gweithdai ar-lein mewn maes sydd o ddiddordeb i chi, lle byddwch yn cael eich cyflwyno i ymgynghorydd busnes. Byddwch wedyn yn cael sesiwn unigol gyda’r ymgynghorydd er mwyn adnabod eich anghenion digidol a chreu adroddiad digidol o argymhellion ar gyfer datblygiad digidol eich busnes yn y dyfodol. 

Bydd Cyngor Gwynedd wedyn yn adolygu eich adroddiad digidol a’r bwriadau a roddwyd yn eich ffurflen datgan diddordeb ac yn dethol 65 busnes i dderbyn cymorth pellach i weithredu ar yr argymhellion. 

Gobeithir sefydlu rhwydweithiau o fusnesau yng Ngwynedd fel rhan o’r cynllun fel eich bod yn gallu cydweithio gyda busnesau eraill i ddatblygu eich marchnad ymhellach. Rydym hefyd yn awyddus i annog busnesau i fagu perthynas rhwng y diwydiant lletygarwch a’r cynhyrchwyr a darparwyr bwyd lleol er mwyn cryfhau’r gadwyn cyflenwi. 


Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni:

Ariennir y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig