Cynllun Grant ISO

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint wedi eu lleoli yng Ngwynedd ennill ardystiadau ISO sy’n gosod safonau byd-eang ar gyfer cynnyrch, gwasanaethau a systemau er mwyn sicrhau ansawdd, diogelwch ac effeithlonrwydd.

Enghreifftiau yw ISO9001 sy’n gosod gofynion ar gyfer system rheoli ansawdd ac ISO14001 sy’n gosod gofynion ar gyfer system rheoli amgylcheddol.

Mae cynllun grant ar gael sy’n cyfrannu tuag at gostau ymgynghorydd i weithio gyda busnesau er mwyn cyrraedd y safonau angenrheidiol i ardystio. Nid yw cost yr ardystiad ei hun yn cael ei gynnwys yn y cynllun.

Y nod yw gwneud busnesau yn fwy effeithlon ac effeithiol wrth gyflenwi nwyddau a gwasanaethau o safon gan arwain iddynt fod yn fwy cystadleuol ac mewn gwell sefyllfa i ymateb i gyfleon tendro gyda Cyngor Gwynedd, awdurdodau lleol eraill, sefydliadau’r llywodraeth a’r sector breifat.

Mae llawer o fanteision wedi eu nodi gan fusnesau o ganlyniad i ennill ardystiadau ISO ond mae angen pwyso a mesur y gost a’r ymrwymiad yn erbyn y buddion rhagwelwyd.  Mae’r cymorth felly wedi ei dargedu at fusnesau sydd gyda’r dyhead a’r gallu i dyfu.

I ddatgan eich diddordeb yn y cynllun, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen datgan diddordeb. Am wybodaeth bellach, cysylltwch gyda Gwasanaeth Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd: