Cynllun Adnewyddu a Buddsoddiad Eiddo Canol Dinas Bangor
Bydd y cynllun yn darparu arian llenwi-bwlch (grantiau a benthyciadau) ar gyfer perchnogion a phreswylwyr adeiladau masnachol i wella tu blaen adeiladau a dod â gofod masnachol gwag yn ôl i ddefnydd buddiol.
Bydd yn targedu eiddo gwag, heb ei ddefnyddio neu diolwg yn ardaloedd masnachol Canol Dinas Bangor, i ysgogi buddsoddiad, cyfleoedd cyflogaeth a chyfrannu at fywiogrwydd yr ardal.
Math o gynlluniau fydd yn cael eu cefnogi:
- Atgyweiriadau sylweddol a strwythurol i adeiladau mewn cyflwr gwael
- Ailosod nodweddion pensaernïol sydd wedi’u colli neu eu difrodi sydd o bwysigrwydd hanesyddol i gymeriad ac edrychiad yr ardal
- Gwaith adnewyddu angenrheidiol i ddod â gofod masnachol yn ôl i ddefnydd buddiol