Arfor ar Waith
Cefndir y prosiect
Mae rhaglen ARFOR yn gweithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.
Cronfa arbrofol yw'r rhaglen, sy'n bwriadu creu mwy a gwell swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a chefnogi twf yr iaith.
Mae ARFOR yn cynnwys cyfuniad o gynlluniau lleol a gweithgareddau ar draws y pedair ardal.
Bwriad y rhaglen yw gwireddu pedwar cynllun lleol:
- hybu mentrau a chefnogi twf busnes mewn ardaloedd lle mae canran uchel o’r bobl yn siarad Cymraeg
- sicrhau swyddi gwell sy’n talu’n well i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hyn ac annog pobl sydd wedi gadael i ddod yn ôl i Wynedd
- hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd a’r Gymraeg mewn busnesau
- annog busnesau a phobl sy’n symud i ardaloedd gwledig i werthfawrogi a defnyddio’r Gymraeg
Mwy o wybodaeth...
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: gwybodaeth@rhaglenarfor.cymru
Gwefan Arfor
Prosiectau yng Ngwynedd
Cymorth i Fentro – pecyn o gyngor a chymorth ariannol i fusnesau sydd am fentro a chreu swyddi newydd yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth,
e-bostiwch: busnes@gwynedd.llyw.cymru
neu ymwelwch â: Cymorth i fentro
Gofod Gwneud a Gweithio – mae gofod ym Mhorthmadog sy'n rhoi cyfle i fusnesau lleol a'r gymuned ddefnyddio offer a thechnoleg newydd.
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch ag Arloesi Gwynedd Wledig.
Her Cymunedau Mentrus – Rydym yn gweithio gyda Phartneriaeth Ogwen, Canolfan Henlas a Menter y Plu ar broseictau sydd am dorri tir newydd a gwireddu syniadau a fydd yn cylchdroi arian o fewn eu cymunedau a chreu swyddi.
Mwy o wybodaeth.
Llwyddo’n Lleol 2050 - ymgyrch ar draws Gwynedd a Môn sy'n gweithio gyda busnesau lleol ac adnabod dylanwadwyr ifanc i hyrwyddo cyfleoedd gwaith i bobl ifanc y sir.
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â Menter Môn.
Prosiectau rhanbarthol
Bydd y siroedd yn cydweithio ar rhai gweithgareddau. Mae cytundeb wedi ei osod ar ran pedwar Cyngor i werthuso’r gweithgareddau a llunio strategaeth newydd i ranbarth y gorllewin i’r dyfodol.
Bydd cynllun Bwrlwm Busnes, yn cynnwys pecyn croeso i’r Gymraeg i hybu'r Gymraeg ar draws y rhanbarth a chodi ymwybyddiaeth busnesau o'r cyfleoedd busnes a phwysigrwydd yr iaith i’n cymunedau.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch:
gwybodaeth@rhaglenarfor.cymru
Am fwy o wybodaeth am y Siroedd eraill, ymwelwch â www.rhaglenarfor.cymru