Cartref > Busnesau > Cymorth, cefnogaeth a hyfforddiant > Covid-19: Cymorth i Fusnes

Covid-19: Cymorth i Fusnes

Dyma becyn sylfaenol dwyieithog o arwyddion safle i chi lawrlwytho a’u printio i helpu eich cwsmeriaid a staff gadw’n ddiogel wrth i chi ail-agor eich busnes.  Cysylltwch gyda’ch dylunydd/argraffydd lleol petaech yn dymuno prynu arwyddion o safon/pwrpasol i’ch busnes.

Posteri

Cylchoedd

Ail-agor Eich Busnes - 6 pheth i'w cofio 

Creu cod QR y GIG ar gyfer y coronafeirws yn eich lleoliad

Arwyddion Mangreoedd Di-fwg

Cwynion ac ymholiadau Covid-19

Rydym yn cydweithio efo busnesau Gwynedd i sicrhau eu bod yn dilyn y rheoliadau diweddaraf er mwyn helpu rhwystro lledaenu Covid-19. Os ydych yn bryderus am fusnes yng Ngwynedd sydd ddim yn dilyn y rheoliadau Covid-19, rhowch wybod i ni:

Adrodd Pryder: Cydymffurfio â Covid-19 

Rydym hefyd yn ceisio atal unrhyw sgamiau neu dwyll yn ymwneud â Covid-19. Rhowch wybod i’r uned Safonau Masnach os oes gennych unrhyw bryder.

Adrodd Pryder: Safonau Masnach

 

Gwasanethau a ddarperir

Yn ogystal a rhoi cyngor i fusnesau ar cyhoedd mi fydd y gwasanaeth yn ymdrin â:

- materion diogelwch cynnyrch
- cwynion am iechyd a lles anifeiliaid/bwyd anifeiliaid
- hysbysiadau diogelwch bwyd
- hysbysiadau o ddamweiniau a digwyddiadau peryglus mewn gweithleoedd
- hysbysiadau o afiechydon heintus 
- cwynion am fusnesau sy'n parhau yn agored
- cesiadau i adnewyddu trwyddedau tacsis yn unig
- ceisiadau gan eiddo trwyddedig i gael Trwydded Digwyddiad Dros Dro i werthu alcohol i'w gludo oddi ar y safle
- ceisiadau i gladdu meirwon o ran angladdau iechyd cyhoeddus
- honiadau o lygredd olew o danciau domestig
- ymholiadau am ddiogelwch dyfroedd preifat
- cwynion am lygredd aer
- cwynion am sbwriel a all fod yn beryglus i iechyd 

Cymorth i fusnesau sy’n talu taliadau salwch statudol i’w staff

Ar gael i fusnesau gyda hyd at 250 o gyflogai, i ad-dalu hyd at 2 wythnos o daliadau salwch statudol i bob gweithiwr gymwys sydd wedi bod i ffwrdd o’u gwaith oherwydd Covid-19. 

Gweld manylion

 

Cymorth Recriwtio Prentisiaid

Bydd y cymelliadau prentisiaethau, a gaiff eu cynnig o Awst 2020 i 30 o Fedi 2021, yn helpu busnesau i recriwtio prentisiaid a datblygu gweithlu sy’n medru bodloni anghenion busnes sy’n newid.

Gweld manylion

 

Cymorth Adnoddau Dynol gan Menter a Busnes

Gweld manylion 


Os ydych yn byw yng Ngwynedd ac angen yr wybodaeth yma mewn fformat neu iaith arall cysylltwch â: 

cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru