Ymholiadau / cwynion parcio

Mae nifer o feysydd parcio yng Ngwynedd sy'n cynnig parcio diogel a fforddiadwy. 

Mae meysydd parcio arhosiad byr wedi eu lleoli’n agos at ganolfannau siopa gyda meysydd parcio arhosiad hir wedi eu lleoli ar gyffiniau’r trefi neu bentrefi neu mewn ardaloedd sydd ag atyniadau tebyg i lan y moroedd neu lwybrau cerdded.

Mae posib talu gydag arian parod yn y meysydd parcio neu drwy lawr lwytho App ‘Paybyphone’ ar eich ffon symudol. Mwy o wybodaeth am feysydd parcio Gwynedd

Mae Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn gyfrifol am orfodaeth parcio ar, ac oddi ar ein strydoedd, ac am gynnal ein meysydd parcio i wneud yn siwr eu bod yn ddiogel a thaclus i ni i gyd.

Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ymdrin â’ch ymholiad neu gŵyn yn brydlon a phriodol. Os bydd y pwerau gan y Cyngor i weithredu ac os yw’n ymarferol bosib i wneud, byddwn yn gweithredu yn unol â’r rheoliadau a deddfwriaethau perthnasol. 

 

Cartrefi modur (motor homes)

Gall cartrefi modur barcio yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Gwynedd.  Ni chaniateir gwersylla dros nos yn unrhyw un o’n meysydd parcio.

Mae rhwystrau uchder yn y meysydd parcio canlynol sydd yn golygu ei bod yn bosib na fydd mynediad i gartrefi modur mawr.

  • Balaclafa, Caernarfon
  • Llyn Bach Porthmadog
  • Stryd Lombard, Porthmadog
  • Morannedd, Criccieth
  • Ffordd Caerdydd, Pwllheli
  • Pen y Gogledd, Bermo
  • Colwyn Banc, Beddgelert

Os yn ymweld â Gwynedd mewn cartref modur rydym yn eich annog i baratoi o flaen llaw drwy archebu lle mewn maes gwersylla swyddogol. Nid yw gwersylla dros nos yn cael ei ganiatáu ar unrhyw ran o’r briffordd, gan gynnwys baeau ar ochr y ffordd (lay-bys) nac ar dir preifat (oni bai eich bod wedi derbyn caniatâd gan berchennog y tir).


 
Beiciau modur

Mae mannau parcio penodol ar gyfer beiciau modur yn:

  • Maes Parcio Aml lawr, Penllyn, Caernarfon.
  • Allt Y Castell, Bangor
  • Glaslyn, Porthmadog 

Mae caniatâd i feiciau modur barcio ym mhob un o feysydd parcio eraill y Cyngor hefyd, drwy ddefnyddio bae parcio arferol ac arddangos tocyn talu ac arddangos.

 

Bysus

Mae mannau parcio penodol ar gyfer bysus yn rhai o feysydd parcio Gwynedd. Gweld rhestr meysydd parcio / parcio bysus


Ffioedd bysus
Hyd at 4 awr £3.50
Dros 4 awr £5.50